Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pa oed?


Summary (optional)
start content

Pa oed gaf i bleidleisio, cofrestru, dod yn Gynghorydd ac ati?

14 oed

Gall pob unigolyn 14 a 15 oed sy’n byw yng Nghymru wneud cais i gael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol.  Bydd cofrestru pan fyddi di’r oed hwn yn dy alluogi di i fod ar y Gofrestr Etholiadol pan fyddi di’n troi’n 16.

16 oed

Pan fyddi di’n 16 ac yn 17 oed galli di bleidleisio yn etholiadau’r Senedd (Senedd Cymru) ac etholiadau lleol, sy’n cynnwys Cynghorau Cymuned a Thref. Er mwyn pleidleisio mae’n rhaid dy fod ti wedi cael dy ychwanegu at y Gofrestr Etholiadol - gweler yr adran isod.

18 oed

Yn 18 oed, galli di bleidleisio ym MHOB etholiad, yn cynnwys etholiadau cyffredinol (seneddol). Galli di hefyd sefyll i fod yn Gynghorydd a chynrychioli dy gymuned leol.  Gellir cael rhagor o wybodaeth yn Bod yn Gynghorydd.     

Y Gofrestr Etholiadol

Mae bod ar y gofrestr etholiadol yn rhoi’r gallu i ti bleidleisio.  Mae hefyd yn dy helpu di i gael statws credyd gan asiantaethau credyd sy’n rhywbeth y bydd efallai ei angen arnat ti wrth fynd yn hŷn os byddi di’n gwneud cais am bethau fel ffôn symudol neu forgais.

Sut i Gofrestru

Galli di wneud hyn drwy fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy ffonio swyddfa etholiadol Conwy ar 01492 576051 neu 01492 576052.  Munud yn unig sydd ei angen a bydd gofyn i ti roi dy enw, cyfeiriad, dyddiad geni a dy Rif Yswiriant Gwladol.

Os hoffet ti bleidleisio drwy’r post (yn hytrach na mynd i dy orsaf bleidleisio), dewisa’r opsiwn pleidlais drwy'r post ar y ffurflen gais pan fyddi di’n cofrestru. 

Rhif Yswiriant Gwladol

Dylet ti fod wedi cael dy rif Yswiriant Gwladol ychydig fisoedd cyn dy ben-blwydd yn 16. Bydd yn rhaid i ti roi dy Rif Yswiriant Gwladol dan amgylchiadau eraill hefyd yn y dyfodol, er enghraifft pan fyddi di’n cael swydd.

Os oes angen cymorth arnat ti i ddod o hyd i dy Rif Yswiriant Gwladol, galli di fynd i www.gov.uk/rhif-yswiriant-gwladol-coll neu galli di ffonio’r llinell gymorth ar 0300 200 3500. Ni fyddan nhw’n rhoi dy rif yswiriant gwladol i ti dros y ffôn ond byddan nhw’n ei anfon atat ti drwy’r post.

end content