Cartref Preswylwyr Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol Cynllun Estyn Caniatâd Gwladolion o Wcráin
start content

Mae’r Cynllun Estyn Caniatâd Gwladolion o Wcráin yn galluogi gwladolion cymwys o Wcráin ac aelodau o’u teulu i estyn eu harhosiad yn y DU pan mae eu caniatâd presennol ar ddod i ben.

Os ydych yn byw yng Nghonwy ar hyn o bryd ac eisiau gwybodaeth am estyn eich caniatâd mewnfudo, gall ein tîm roi arweiniad i chi a’ch cyfeirio at wasanaethau priodol.

I weld mwy o wybodaeth a'r meini prawf i fod yn gymwys, ewch i: Gwneud cais ar gyfer y Cynllun Estyn Caniatâd Gwladolion o Wcrain - GOV.UK

Cefnogaeth a Manylion Cyswllt

Gall y Tîm Cynhwysiant Cymunedol ac Adsefydlu helpu gyda:

  • Deall y gefnogaeth sydd ar gael
  • Cyngor ar dai
  • Mynediad at wasanaethau
  • Integreiddio yn y gymuned
  • Arweiniad ar gyflogaeth
  • Addysg a chyfleoedd hyfforddi

Cysylltwch â ni am gyngor a chefnogaeth ar: cymorthwcrain@conwy.gov.uk 

end content