Croeso
Mae’r Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol yn cefnogi pobl sydd wedi cyrraedd Conwy trwy gynlluniau adsefydlu a lloches Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd, lletywyr, noddwyr, landlordiaid, sefydliadau partner a chymunedau lleol i helpu pobl i ymgartrefu'n ddiogel a llwyddiannus o fewn Conwy.
Mae ein cefnogaeth yn cynnwys:
- Cefnogaeth tai a llety
- Cyngor ar fudd-daliadau a lles
- Mynediad at wasanaethau gofal iechyd
- Addysg a derbyniadau ysgol
- Cefnogaeth hyfforddi a chyflogaeth
- Dysgu Saesneg (ESOL)
- Gweithgareddau integreiddio cymunedol
- Gwaith achos parhaus a chefnogaeth ymarferol
Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n cyrraedd drwy:
- Cartrefi i Wcráin
- Cynllun Adsefydlu Ffoaduriaid o Wcráin
- Cynllun Estyn Caniatâd Gwladolion o Wcráin
- Rhaglen Adsefydlu Affganiaid
- Cynllun Adsefydlu'r DU
- Gwasanaethau Cefnogi Lloches a Noddfa
Ceiswyr Noddfa
Mae Conwy’n croesawu pobl sy’n ceisio noddfa ac wedi ymrwymo i helpu unigolion a theuluoedd i ailadeiladu eu bywydau mewn cymuned ddiogel a chefnogol.
Mae’r Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol yn gweithio gydag ystod o bartneriaid lleol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau hanfodol a chyfleoedd tra’n byw yn y wlad.
Gallai’r gefnogaeth gynnwys:
- Cymorth tai
- Mynediad at wasanaethau gofal iechyd
- Derbyniadau ysgolion
- Canllawiau ariannol a budd-daliadau
- Cefnogaeth gyda chyflogaeth
- Dysgu Saesneg
- Gweithgareddau yn y gymuned
- Cyngor ar wasanaethau lleol
Ein nod yw helpu pawb i deimlo’n ddiogel, gwybodus a chael eu cynnwys.
Gallwch ddarllen mwy am Geiswyr Noddfa yma
Cartrefi i Wcráin
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn lletywr, neu ar gyfer dinasyddion Wcráin cymwys ac aelodau o'u teuluoedd sy'n dymuno ymestyn eu harhosiad yn y DU, gweler y canlynol:
Gwybodaeth Arall
Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am y canlynol: