Mae Cynllun Adsefydlu'r DU yn llwybr i breswyliaeth yn y DU ar gyfer y rhai sydd wedi’u dadleoli yn fyd-eang. Mae’n rhan bwysig o ymateb dyngarol y DU i gynnig llwybr diogel a chyfreithlon i ffoaduriaid diamddiffyn sydd angen cael eu diogelu.
O dan y cynllun, gall ffoaduriaid gyrraedd o wledydd trydydd byd dros y byd i gyd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am broses adsefydlu UNHCR yn: proses adsefydlu UNHCR.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Gynllun Adsefydlu'r DU yn: Cefnogi Hawlwyr Lloches.
Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda theuluoedd ac unigolion i’w helpu i sefydlu annibyniaeth hirdymor o fewn y gymuned. Mae cefnogaeth ar gael ar draws ystod o feysydd gan gynnwys tai, cyflogaeth, addysg a lles.
Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys:
Am gymorth pellach, cysylltwch â'r Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt neu drwy anfon neges e-bost at resettlement@conwy.gov.uk.