Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cartrefi i Wcráin


Summary (optional)
start content

Gwybodaeth i Letywyr 

Diolch am agor eich cartref a chefnogi unigolion a theuluoedd sydd wedi cael eu dadleoli yn sgil y gwrthdaro yn Wcráin.

Mae lletywyr yn chwarae rhan hanfodol i helpu pobl i ymgartrefu i’w cymuned newydd wrth addasu i fywyd yn y DU. Fel lletywr, gallwch ddisgwyl cefnogaeth gan y Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol trwy gydol y cyfnod lletya.

Y Broses Letya

  • Paru dechreuol a chymeradwyaeth nawdd. Bydd y Cyngor yn cyflawni gwiriadau ar yr eiddo
  • Bydd gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn digwydd os oes angen
  • Trefniadau cyrraedd a chroesawu’r gwestai
  • Cymeradwyo’r lletywyr a chyflwyno fisa i’r teulu/unigolyn
  • Llythyr croeso i’r teulu sy’n lletya. Ymweliad dechreuol i’r llety. 
  • Cefnogaeth barhaus gan y tîm adsefydlu, gan gynnwys ymweliadau lles rheolaidd ac adolygiadau llety.
  • Bydd taliad misol i ddiolch i’r lletywr yn cael ei drefnu.

Taliadau Cyrraedd

Efallai bydd gwestai cymwys sy’n cyrraedd o dan y Cynllun Cartrefi i Ffoaduriaid o Wcráin, yn derbyn taliad cyrraedd dechreuol er mwyn helpu i dalu am gostau hanfodol wrth ymgartrefu yn eu llety newydd.

Bydd eich Swyddog Adsefydlu yn egluro cymhwysedd a threfniadau talu ar ôl i chi gyrraedd.

Diwedd Taliadau Diolch

Gall drefniadau ariannu’r Llywodraeth newid dros amser.

Mae lletywyr yn gymwys am daliadau diolch misol sy’n parhau hyd nes i Fisa Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin o 18 mis, ddod i ben.

Gallwch ddarllen mwy am Gynllun Estyniad Caniatâd yr Wcráin yma: Cynllun Estyniad Caniatâd yr Wcráin

Os ydych yn dod tuag at ddiwedd eich taliadau diolch, bydd y Tîm Adsefydlu a Chynhwysiant Cymunedol yn cysylltu â chi i drafod y dewisiadau sydd ar gael a darparu cyngor ar y camau nesaf. Gall hyn gynnwys:

  • Parhau gyda threfniadau lletya
  • Cefnogi cynllun symud ymlaen
  • Mynediad at gyngor tai
  • Canllawiau ar ddewisiadau rhentu preifat


Cefnogaeth a Manylion Cyswllt

Rydym yn darparu cefnogaeth gyda:

  • Thai a llety
  • Cyngor ar fudd-daliadau a lles
  • Derbyniadau ysgolion
  • Cefnogaeth gyda chyflogaeth
  • Mynediad at ofal iechyd
  • Integreiddio yn y gymuned

Cysylltwch â'r Tîm Cynhwysiant Cymunedol ac Ailgartrefu drwy ddefnyddio ein ffurflen gyswllt neu drwy anfon e-bost: ukrainesupport@conwy.gov.uk 

end content