Mae gan Fanc Dillad Conwy yn Stordy’r Sanctuary Trust yn Llandudno ddillad ar gyfer babis, plant, merched a dynion, yn ogystal â rhywfaint o wisg ysgol, sydd wedi cael eu rhoi i unrhyw un yn ein cymunedau sydd angen cymorth.Mae gennym ddillad ail law o ansawdd, yn gotiau ac yn esgidiau, dillad gwely, tyweli ac eitemau cegin bychain.
I wneud atgyfeiriad, anfonwch e-bost at
conwyclothingbank@gmail.com gan nodi:
- Enw a chyfeiriad e-bost y derbynnydd er mwyn i ni fedru trefnu amser iddynt ymweld â’r Banc Dillad i ddewis eu dillad, neu
- Enw’r derbynnydd a:
- beth sydd ei angen
- maint oedolion
- taldra plant
- maint esgidiau lle bo hynny’n berthnasol
- enw a chyfeiriad e-bost i drefnu i gasglu/danfon y dillad
Nid yw’r Banc Dillad ar agor bob dydd, felly mae’n rhaid trefnu apwyntiad i ymweld â ni.
Banc Dillad Conwy, 21 Ffordd Las, Llandudno, LL30 1ER
Diolch am ein helpu i gysylltu â’r rheiny sydd angen cymorth yn y cyfnod anodd hwn.
Caroline J Adams
Banc Bwyd Conwy a’r Soroptimyddion Rhyngwladol