Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Costau Byw Gwasanaethau Eraill

Gwasanaethau Eraill


Summary (optional)
start content

Dolenni defnyddiol

Isod mae rhai dolenni i wasanaethau sydd ar gael yng Nghonwy, a allai gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol os ydych chi'n cael trafferth gyda'r cynnydd mewn costau byw.

Cartrefi Conwy - Cefnogi cymunedau drwy'r misoedd oerach


Croeso Cynnes - Dewch draw i un o'n canolfannau cymunedol i fwynhau gofod cynnes a diogel, gyda chawl a bara.

Dydd Llun  12yp - 2yp
Pentre Newydd, Hen Golwyn

Dydd Mawrth  12yp - 2yp
Kennedy Court, Hen Golwyn

Dydd Mercher  11yb - 1yp
Chester Avenue, Bae Cinmel

Dydd Iau  12yp - 2yp
Y Fron, Bae Colwyn

Dydd Gwener  11yb - 1yp
ParkWay, Llandrillo-yn-Rhos

Llyfrgelloedd Conwy

Mae Llyfrgelloedd Conwy yn cynnig mynediad am ddim i gyfleusterau a gwasanaethau a allai fod o ddefnydd i’n trigolion.

Er enghraifft, gallwn gynnig cymorth a chefnogaeth gyda'r meysydd canlynol:

  • Chwilio am waith,
  • Cwblhau ac argraffu CV
  • Ymarfer sgiliau iaith
  • Ymwybyddiaeth o adnoddau fel cylchgronau proffesiynol i ddysgu mwy cyn cael cyfweliad am swydd
  • Cymorth i argraffu neu sganio dogfennau ar gyfer cwsmeriaid sy'n chwilio am lwfansau byw ychwanegol
  • Trafod adnoddau ar-lein a llyfrau i helpu cwsmeriaid â dyslecsia
  • Codi ywybyddiaeth o’n casgliadau iechyd a lles i blant ac oedolion er mwyn eu cefnogi yn ystod adegau prysur a mwy heriol

Gallwch ymaelodi â'r llyfrgell am ddim trwy alw yn eich llyfrgell leol neu trwy lenwi ein ffurflen ar-lein i gael mynediad uniongyrchol at ein hadnoddau digidol.

Gallwch gael mynediad at ystod eang o lyfrau ar gyfer bob oedran, adnoddau ar-lein, a chasgliadau llyfrau llafar ac e-adnoddau. Mae ein catalog ar-lein ar gael i chi bob awr o'r dydd, bob dydd o'r wythnos.

Mae pob llyfrgell yn cynnig mynediad at gyfrifiaduron a chefnogaeth gan staff.  Os ydych yn mynd ar-lein yn y llyfrgell neu yn eich cartref, gallwch weld papurau newydd a chylchgronau am ddim, adnoddau gwybodaeth ar-lein ac adnoddau dysgu iaith a theori gyrru, mae rhestr gyflawn i'w gweld ar ein gwefan.

Mae digwyddiadau i gefnogi ein cwsmeriaid yn cynnwys stori wythnosol, grwpiau darllen, cymorth TG a sesiynau ymarfer Cymraeg anffurfiol.

Ffit Conwy

Y gaeaf hwn gall preswylwyr lleol gael cawod boeth am ddim yng nghanolfannau hamdden Conwy – gofynnwch yn y dderbynfa a dewch â’ch tywel a phethau ymolchi. Gwybodaeth am oriau agor Canolfannau Hamdden (conwy.gov.uk)

end content