Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelu'r Arfordir


Summary (optional)
Ein dyletswyddau i amddiffyn yr arfordir a’n Cynlluniau Rheoli Traethlin.
start content

Mae Sir Conwy’n adnabyddus am ei harfordir sy’n 73 cilomedr o hyd ac sy’n tynnu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i Safle Treftadaeth y Byd ac at draethau godidog a phromenadau Fictoraidd hanesyddol.

Nid yw’r arfordir yn ffin gwbl sefydlog.  Heb inni fynd ati i ddiogelu’r arfordir, byddai lleoliad yr arfordir yn newid yn barhaus oherwydd y llanw.

Dyletswyddau a Strategaethau’r Cyngor


Rydym yn rheoli 23 cilomedr o amddiffynfeydd môr artiffisial (morgloddiau, waliau, ac ati) sy’n diogelu eiddo’r Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys promenadau Llandudno, Bae Colwyn, Llanfairfechan a Phenmaenmawr.

Mae’r Cyngor yn meddu ar bwerau i orfodi neu wneud gwaith i ddiogelu’r arfordir dan Ddeddf Amddiffyn y Glannau 1949.  Nid yw’r Cyngor wedi’i rwymo o gwbl dan y ddeddfwriaeth hon i wneud unrhyw waith.

Ym Mhrydain, mae pob darn o'r arfordir wedi cael ei ddadansoddi, er mwyn penderfynu a ddylid ‘gwneud dim’, ‘ehangu’r llinell’, ‘tynnu’r llinell yn ei hôl’, ynteu ‘amddiffyn y llinell bresennol’.  Mae’r penderfyniadau hyn wedi'u gwneud yn ffurfiol mewn Cynlluniau Rheoli’r Traethlin, sy’n amlinellu’r strategaeth ar gyfer yr arfordir.  O achos graddau'r erydu a chost amddiffynfeydd, penderfynwyd aberthu tir ac eiddo i'r môr sy'n treiddio ymhellach bob gafael mewn sawl ardal ym Mhrydain.

Yng Nghonwy, y strategaeth bresennol ar gyfer y rhan fwyaf o’n harfordir yw ‘amddiffyn y llinell bresennol’.

Mae dau Gynllun Rheoli Traethlin ar waith yng Nghonwy – Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru a Chynllun Rheoli Traethlin Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru.

Gweld y Cynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru (gwefan allanol)

Gweld y Cynllun Rheoli Traethlin Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru (gwefan allanol, yn Saesneg)

 

Hawliau a Chyfrifoldebau y Tirfeddiannwr


Mae Tirfeddianwyr preifat yn gyfrifol am ddiogelu eu heiddo eu hunain rhag erydu a rhag llifogydd. Nid oes cyfrifoldeb ar y Cyngor i wneud gwaith diogelu’r arfordir ar eiddo preifat.  Er hynny, mae dyletswydd arnom i asesu perygl o lifogydd mewn eiddo. I gael mwy o wybodaeth, gweler y dudalen Cyngor a Chanllawiau Llifogydd.

Ynglŷn â Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru (CMAC)


Cyllidir Canolfan Monitro Arfordirol Cymru gan Lywodraeth Cymru i fonitro esblygiad arfordiroedd er mwyn diogelu pobl Cymru.

Mae rhaglen fonitro arfordirol CMAC yn darparu’r dystiolaeth sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch rheoli peryglon llifogydd ac erydu arfordirol.  Gydag amser, bydd y data’n darparu tystiolaeth a all helpu i liniaru esblygiad arfordirol, cynnydd yn lefel y môr, a newid yn yr hinsawdd.

end content