Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Draenio Tir a Chyrsiau Dŵr


Summary (optional)
start content

Cyfeirir at ddraeniau tir fel ‘cyrsiau dŵr’ ac maent yn cynnwys pob afon, nant, ffos, draen, ffrwd, ceuffos (rhannau â phibellau), llifddor a sianel y mae dŵr yn llifo drwyddynt. Mae draenio tir yn faes cymhleth o ran cyfrifoldeb ond, yn fyr, perchennog y tir sy’n gyfrifol am y draeniau tir sydd ar eu heiddo.

Hawliau a Chyfrifoldebau’r Tirfeddiannwr

Fel perchennog glannau afon (neu berchennog tir sydd wrth ymyl neu sy’n cynnwys cwrs dŵr), mae gennych chi hawliau a chyfrifoldebau penodol mewn perthynas â’r cwrs dŵr. Mae’r hawliau glannau afon hyn wedi’u seilio ar y gyfraith gyffredin.

Eich prif hawliau yw:

  • Derbyn llif dŵr yn ei gyflwr naturiol, heb ymyrryd yn ddiangen â'i gyfaint na'i ansawdd
  • Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd, a'ch tir rhag erydu
  • Y gallwch fod yn berchen ar dir hyd at ganol y cwrs dŵr

Eich prif gyfrifoldebau yw:

  • Trosglwyddo dŵr i’r perchennog nesaf heb unrhyw rwystro, llygru na dargyfeirio a fyddai'n effeithio ar hawliau eraill
  • Derbyn llifogydd trwy eich tir, hyd yn oed os yw wedi’i achosi gan anallu i dderbyn y dŵr yn is i lawr, gan nad oes unrhyw ddyletswydd yn y gyfraith gyffredin i wella cwrs dŵr.
  • Cynnal a chadw gwely a glannau'r cwrs dŵr (gan gynnwys coed a llwyni sy’n tyfu ar y glannau) a chlirio unrhyw weddillion, naturiol neu ddim, yn cynnwys sbwriel a chyrff anifeiliaid, hyd yn oed os na ddaethant o’ch tir chi
  • Clirio gwely a glannau’r cwrs dŵr rhag unrhyw wrthrychau a allai fod yn rhwystr, un ai ar eich tir chi neu trwy gael eu golchi gan lif cryf i fod yn rhwystr ar adeiledd yn is i lawr. Ni ddylid defnyddio cyrsiau dŵr a’u glannau i gael gwared ag unrhyw wastraff gardd na gwastraff arall

Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin

Os ydych yn dymuno gosod neu adeiladu unrhyw beth, fel argae, cored, cefnfur neu geuffos a all effeithio ar lif cwrs dŵr, mae’n rhaid i chi gael caniatâd, a hynny ar ben unrhyw ganiatâd neu gymeradwyaeth arall y gallech fod eu hangen.

Pwrpas caniatâd cwrs dŵr yw rheoli gweithgarwch penodol a allai gael effaith niweidiol ar lifogydd. I gael mwy o wybodaeth ac i dderbyn pecyn cais Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin, cysylltwch â ni.

Archwiliadau a Chynnal a Chadw

Cyfrifoldeb perchennog glannau’r afon (neu berchennog tir sydd wrth ymyl neu sy'n cynnwys cwrs dŵr) yw archwilio a gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd. Noder y bydd angen i chi gael Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin os ydych yn gwneud unrhyw waith ar gwrs dŵr. Ar dir sy’n eiddo i’r Awdurdod Lleol, bydd Tîm Ymateb Amgylcheddol Conwy’n cynnal archwiliadau rheolaidd o'r holl gyrsiau dŵr a'r ceuffosydd sy’n hysbys i’r Cyngor. Trwy archwilio a chynnal a chadw’n rheolaidd, mae'r perygl y bydd cyrsiau dŵr a cheuffosydd yn cael eu rhwystro’n llai. Os ydych chi’n gweld problem â chwrs dŵr neu geuffos, yna cysylltwch â ni.

Llenwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.

end content