Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Rhoi Gwybod am Lifogydd


Summary (optional)
Os ydych yn ymwybodol o unrhyw broblemau llifogydd yn eich ardal, hoffem glywed gennych.
start content


Fel arall, gallwch ein ffonio ni ar:
01492 577999

Os ydych chi’n gweld draeniau sydd wedi’u blocio neu’n gorlifo, llifogydd wedi’u hachosi gan afonydd neu’r môr, neu unrhyw broblemau ar ffyrdd neu eiddo, rhowch wybod i ni.

Beth allwch chi roi gwybod amdano
 

  • Prif afon
  • Afon fechan neu nant (hefyd yn cael eu hadnabod fel cwrs dŵr cyffredin)
  • Arfordir - tonnau - nifer sylweddol o donnau yn tasgu dros y morglawdd neu bromenâd
  • Arfordir - llifddor - pan fo llifddorau yn agored ond bod amodau'r môr yn awgrymu na ddylent fod yn agored
  • Gyli wedi’i flocio – grid sgwâr metal yw gyli, doir o hyd iddo gan amlaf ar ymyl ffordd. Caiff ei alw’n aml yn ddraen.
  • Draen ffos wedi’i flocio - sianel hir gyda gorchudd gril yw draen ffos, sy’n helpu i ddraenio dŵr wyneb
  • Sgrin brigau wedi’i flocio - bariau metal sy’n rhwystro darnau rhag blocio nant neu afon yw sgrin brigau. Weithiau mae rhaid eu clirio er mwyn creu lle i’r dŵr lifo.
  • Ceuffos wedi’i flocio – twnnel carreg, plastig neu goncrid, neu beipen sy’n cario nant neu afon dan ddaear yw ceuffos.
  • Twll archwilio neu garthffos gyfunol – twll gyda gorchudd metel crwn yw twll archwilio, fel arfer ar ffyrdd.
  • Llifogydd ar y briffordd
  • Llifogydd mewn garej
  • Llifogydd mewn gardd
  • Llifogydd mewn eiddo
  • Perygl a fethwyd o drwch blewyn


Beth nad ydym ni’n ei wneud:

Draenio dŵr budr – Dŵr Cymru (ffoniwch 0800 085 3968)
Os ydych chi’n gweld papur toiled neu elifion yn y dŵr, mae hyn yn broblem â charthffos.

Tir preifat - os nad yw’r llifogydd yn cael effaith ar eiddo, caiff ei gyfrif yn fater blaenoriaeth isel.

Digwyddiadau yn ymwneud â llygredd – cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru

end content