Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amddiffynfeydd Llifogydd a Bagiau Tywod


Summary (optional)
 Nid ydym yn dosbarthu bagiau tywod i fusnesau na phreswylwyr yn ystod llifogydd – mae gwybodaeth ar y dudalen hon er mwyn gwneud trefniadau eich hunain i ddiogelu eich eiddo.
start content

Amddiffynfeydd Llifogydd

Argymhellwn yn gryf bod gan breswylwyr a pherchnogion busnesau fesurau eu hunain i amddiffyn rhag llifogydd os oes ganddynt bryderon eu bod mewn risg o lifogydd.Gall hyn gynnwys cynnyrch sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd. 

Yn ystod tywydd garw, byddwn yn gwneud ymdrech rhesymol i helpu preswylwyr sydd mewn risg o lifogydd, ond mae hyn yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael ar y pryd. Ni allwn sicrhau'r trigolion y byddwn yn gallu eu cynorthwyo pob tro mae llifogydd.

Os ydych yn pryderu eich bod mewn risg o lifogydd, argymhellwn i chi ystyried gosod amddiffynfeydd llifogydd eich hunain.  Gall y dolenni isod roi rhagor o wybodaeth i chi am ddiogelu eich eiddo.

Know Your Flood Risk – canllawiau i breswylwyr a busnesau

Cyfoeth Naturiol Cymru – beth i’w wneud cyn llifogydd

National Flood Forum – cefnogi pobl sydd mewn risg o lifogydd  

Blue Pages – cyfeirlyfr o gyflenwyr amddiffyn rhag llifogydd

Bagiau Tywod  

Mae bagiau tywod yn helpu i wyro a dargyfeirio llif dŵr y llifogydd, ond nid ydynt yn effeithiol am ddiogelu eiddo rhag llifogydd dŵr daear neu lifogydd carthffos. Ar eu gorau, dim ond siawns o 40% sydd gan fagiau tywod o gadw dŵr allan o eiddo’n llwyddiannus.

Yn unol â pholisi bagiau tywod Conwy:-

Byddwn yn:

  • Defnyddio bagiau tywod i ddargyfeirio llif y llifogydd sy’n tarddu o ardaloedd sydd ym meddiant y Cyngor neu’n cael eu cynnal ganddynt, fel gylïau priffyrdd, cwlferi, ffosydd a chyrsiau dŵr arferol (afonydd neu nentydd heb eu cynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru)
  • Yn ddibynnol ar argaeledd, defnyddio bagiau tywod mewn lleoliadau lle mae llifogydd yn risg ddybryd i fywyd neu eiddo. Caiff y penderfyniad hwn ei wneud gan y swyddogion ymatebol.
  • Rhoi blaenoriaeth i breswylwyr oedrannus a diamddiffyn
  • Casglu bagiau tywod o dir sy’n eiddo i’r awdurdod a mannau agored cyhoeddus ac yn cael gwared arnynt yn y dull priodol

Ni fyddwn yn:

  • Dosbarthu bagiau tywod i eiddo preifat cyn achos o lifogydd
  • Dosbarthu bagiau tywod i eiddo masnachol ar unrhyw adeg cyn, yn ystod nac ar ôl achos o lifogydd. Mewn amgylchiadau eithriadol, gallwn wneud hyn i amddiffyn isadeiledd hanfodol neu eiddo preswyl cyfagos rhag difrod o lifogydd
  • Caniatáu i breswylwyr gasglu bagiau tywod o ddepos y Cyngor. Dylai preswylwyr sydd eisiau bagiau tywod drefnu i gael rhai eu hunain gan fasnachwr adeiladu lleol neu gwmni tebyg cyn unrhyw dywydd eithafol
  • Casglu bagiau tywod o dir preifat, eiddo masnachol neu eiddo preswyl. (Byddwn yn casglu bagiau tywod a ddefnyddiwyd ar gyfer preswylwyr oedrannus a diamddiffyn).

Yng Ngorffennaf 2017 mabwysiadodd y Cyngor bolisi bagiau tywod newydd, sy’n rhoi arweiniad a gwybodaeth i Swyddogion, Aelodau a’r cyhoedd ynghylch defnyddio bagiau tywod yn ystod tywydd eithafol.

end content