Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghoriad Is-Ddeddfau Draenio Tir


Summary (optional)
Rydym yn ystyried mabwysiadu is-ddeddfau draenio tir newydd
start content

Am beth mae’n sôn?

Mae’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn rhoi pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol i Gynghorau yng Nghymru ar gyfer rheoli llifogydd o ddŵr wyneb, dŵr daear a chwrs dŵr cyffredin.

Fel rhan o hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cael ei ddynodi fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Golyga hyn bod angen i chi gael caniatâd y Cyngor i wneud unrhyw waith i gwrs dŵr cyffredin. Cafodd y cyfrifoldeb hwn ei drosglwyddo o Gyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill 2012, a nhw sydd dal â chyfrifoldeb dros roi caniatâd i waith i brif afonydd.

Ers cyflwyno'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, mae Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi codi pryderon ynglŷn â’n diffyg pwerau cyfreithiol i reoli perygl llifogydd.  Golyga hyn nad yw rhai gweithgareddau i ac o amgylch cyrsiau dŵr cyffredin angen caniatâd, ond gallai gynyddu’r perygl llifogydd.

Er mwyn rheoli’r perygl hwn, mae cyfres o Is-Ddeddfau Draenio Tir cenedlaethol wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Cyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fabwysiadu’r is-ddeddfau hyn, gofynnom am adborth.  

Cynhaliwyd y cyfnod ymgynghori ar gyfer yr is-ddeddfau rhwng 8 Tachwedd 2018 a 15 Chwefror 2019.  Rydym yn ystyried yr ymatebion a byddwn yn adrodd ein canfyddiadau i’r Cabinet i benderfynu a ddylai’r is-ddeddfau gael eu mabwysiadu.

end content