Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Dewis Gofal Plant


Summary (optional)
start content

Sut ydw i’n chwilio am Ddarparwyr Gofal Plant yng Nghonwy?

Ewch i’n cronfa ddata ar http://www.gwybodaethgofalplant.cymru/fis/ neu defnyddiwch y dolenni isod

Os nad allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy a all eich helpu chi.

Pethau i’w hystyried wrth ddewis gofal plant

Mae'r math gorau o ofal plant ar gyfer eich plentyn yn dibynnu ar sefyllfa eich teulu ac anghenion eich plentyn. Fel y mae eich plentyn yn tyfu bydd ei anghenion chwarae ac addysgol yn newid hefyd, ac efallai bydd angen i chi ystyried mathau gwahanol o ofal plant.

  • Dylech ganiatáu digon o amser i ddewis y gofal plant cywir ar eich cyfer. Os ydych yn bwriadu dod yn ôl i'r gwaith ar ôl genedigaeth eich baban, dylech ddechrau chwilio cyn ei eni. Dylech hefyd fod yn barod i dreulio amser i setlo eich baban gyda'ch dewis o ofalydd.
  • Mae gan rai gofalwyr plant restr aros am leoedd ac felly mae'n bwysig meddwl am y math o ofal a darpariaeth yr hoffech ei ddefnyddio.
  • Mae Gofalwyr Plant Cofrestredig, Meithrinfeydd Dydd, Clybiau y Tu Allan i'r Ysgol, Grwpiau Chwarae a Chylchoedd Meithrin i gyd wedi'u cofrestru gydag Arlolygiaeth Gofal Cymru, ac maent yn cael eu harchwilio ganddynt.
  • Gallwch hefyd ymweld ag Arolygiaeth Gofal Cymru am fwy o gymorth a chyngor ar sut i ddewis y gofal plant gorau i chi a’ch teulu.
  • Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar ddewis gofal plant yma.

Help gyda chostau gofal plant

Mae gwybodaeth am help gyda thalu am ofal plant ar gael ar ein gwefan, a hefyd ar wefan Childcare Choices Llywodraeth y DU.

end content