Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy


Summary (optional)
Ydych chi’n rhiant neu ofalwr? Os ydych, yna Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy yw’r lle i chi.
start content

Yma yng Ngwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy, rydym yn darparu gwybodaeth ar ystod eang o bynciau y byddwch yn eu gweld yn ddefnyddiol o bosib. Pethau fel talu am ofal plant, gweithgareddau cyn-ysgol a thu allan i’r ysgol, derbyniadau ysgolion, gwasanaethau cymorth teulu - i enwi ond rhai.

Mae gennym gronfa ddata, tudalen Facebook a grŵp e-bost Rhwydwaith Rhieni Conwy.

Gallwch weld ein cronfa ddata eich hun yn www.gwybodaethgofalplant.cymru/conwy

Neu os ydych chi’n rhiant, gofalwr neu’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio yng Nghonwy, cofrestrwch i’r grŵp e-bost Rhwydwaith Rhieni Conwy.  Byddwn yn anfon gwybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau wrth i ni glywed amdanynt.

Cysylltwch â ni:

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am:


Cofiwch os na allwch ddod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch.  Os nad ydym yn gwybod ateb i’ch cwestiwn, dwi’n siŵr y byddwn yn adnabod rhywun a all ei ateb!

Sylwch:

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir i ni ac a osodir ar ein cronfa ddata, ni all Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy fod yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw wallau yn y wybodaeth.  Gan hynny, fe’ch argymhellir i wirio’r manylion eich hunan bob amser i sicrhau fod gwasanaethau yn ateb eich gofynion.  Hefyd ni all Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy argymell nac ardystio unrhyw un o’r darparwyr a restrir.

end content