Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mathau o Ofal Plant


Summary (optional)
Rhaid i unrhyw un sy’n darparu gofal plant i blant dan 12 oed am dros 2 awr y dydd am dâl gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac mae angen iddynt gydymffurfio â Safonau ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
start content

Gwarchodwyr Plant

Mae gwarchodwyr plant yn ddarparwyr gofal plant sy’n gweithio yn eu cartrefi eu hunain ac mae’n bosibl y byddant yn cynnig gofal llawn amser neu ran amser, gan gynnwys gofal cyn ac ar ôl ysgol, gofal cofleidiol a gofal yn ystod gwyliau.

Gofal dydd

Gall darparwyr gofal dydd gynnig gofal llawn amser neu ran amser, darpariaeth gofleidiol, gofal y tu allan i’r ysgol a darpariaeth yn ystod gwyliau.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Meithrinfeydd Dydd
  • Cylchoedd chwarae
  • Cylchoedd Meithrin
  • Clybiau gofal plant y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys
  • Clwb Brecwast, Clwb Ar ôl Ysgol, Clwb Gwyliau a gofal cofleidiol

Am fwy o fanylion am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy.

Gofal plant anghofrestredig

Nid yw pob un lleoliad gofal plant yn gorfod cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Yn gyffredinol, mae sesiynau yn y lleoliadau hyn yn cael eu rhedeg am lai na 2 awr y dydd neu nid yw’r darparwr yn derbyn tâl am y gofal plant, ond mae ambell i eithriad.

Gall gofal plant anghofrestredig gynnwys:

  • Gwasanaethau ‘au pair’
  • Ffrindiau a theulu sy’n gwarchod neu’n darparu gofal

Os ydych mewn unrhyw amheuaeth ac yn dymuno gwirio a oes angen cofrestru gallwch gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy am gyngor.

Os ydych yn defnyddio gofal plant sydd heb gofrestru neu heb gael ei gymeradwyo ni fydd modd i chi hawlio cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU.

Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref, Cymru

Gall unrhyw un, heblaw am berthynas agos, sy’n darparu gofal plant yng nghartref plentyn (e.e. nani) wneud cais i fod yn ddarparwr gofal plant cymeradwy.

Rhaid iddynt:

  • Fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • Meddu ar gymhwyster gofal plant
  • Meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf perthnasol
  • Bod wedi derbyn datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae mwy o wybodaeth ar gael am Gynllun Cymeradwyo Gwirfoddol Gofal Plant yn y Cartref yng Nghymru ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

end content