Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Llywodraethwyr Ysgolion Sut galla i fod yn llwyodraethwr ysgol?

Sut galla i fod yn llwyodraethwr ysgol?


Summary (optional)
start content

Rhiant Lywodraethwyr

Rhaid i holl gyrff llywodraethu ysgolion gynnwys rhiant lywodraethwyr sydd wedi ei ethol yn flynyddol gan rieni disgyblion sy’n gofrestredig yn yr ysgol. Gellir cael gwybodaeth bellach yn uniongyrchol o’r ysgol.

Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol

Dylai unigolion sy’n cael eu henwebu fel Llywodraethwyr Awdurdod Lleol fod yn gallu dangos:

  • Ymrwymiad a diddordeb mewn addysg;
  • Dymuniad i gynorthwyo’r ysgol dan sylw;
  • Parodrwydd i wasanaethu’r gymuned leol;
  • Sgiliau a phrofiad a fydd yn cynorthwyo gwaith yr ysgol;
  • Gallu i weithio fel aelod o dîm;
  • Doethineb a gallu cadw cyfrinachedd;
  • Parodrwydd i roi’r amser i gyflawni eu hymrwymiadau i’r Corff Llywodraethu;
  • Empathi ag amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol y Fwrdeistref Sirol yn arbennig o ran cefnogi’r iaith Gymraeg;
  • Parodrwydd i gefnogi dyheadau a bwriad strategol y Fwrdeistref Sirol;
  • Ymrwymiad at fod yn bresennol mewn hyfforddiant i lywodraethwyr.

Yn ychwanegol, ni ddylai enwebiadau ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdod Lleol:

  • Yn fwriadol fod wedi eu gwahardd rhag gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol;
  • Fod yn gweithio i’r ysgol.

Os hoffech gael eich ystyried am gael eich penodi fel Llywodraethwr Awdurdod Lleol cwblhewch y Ffurflen Gais isod.

 

Mae gan yr Awdurdod Lleol amryw o swyddi gwag a bydd yn penodi llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn fisol.

end content