Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (ARAP)

Y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid (ARAP)


Summary (optional)
Gweler isod.
start content

Beth yw’r Cynllun Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid?

Sefydlodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol gynllun adleoli pwrpasol eleni ar gyfer staff a chyn-aelodau o staff a gyflogwyd yn Affganistan. Y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Amddiffyn sydd wedi sefydlu’r cynllun.

Lansiwyd y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid ar 1 Ebrill 2021. Mae’n golygu y caiff unrhyw aelod o staff neu gyn-aelod o staff a gyflogwyd yn Affganistan gynnig adleoliad i’r Deyrnas Gyfunol â blaenoriaeth lle mae asesiad yn dangos eu bod o dan fygythiad difrifol, beth bynnag oedd statws eu cyflogaeth, eu swyddogaeth neu reng, neu am ba hyd y’u cyflogwyd.

Mae manylion llawn y cynllun wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol (Saesneg yn unig).

Ydi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn derbyn teuluoedd o dan y cynllun?

Ydi.  Byddwn yn darparu llety i un teulu o Affganistan. Cefnogir y teulu wrth gyrraedd er mwyn sicrhau fod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt. Bydd y teulu’n cael cymorth gan y gwasanaethau priodol yn unol â’u hanghenion.

Faint o deuluoedd fydd yn cael llety?

Y cytundeb ar hyn o bryd yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n darparu llety i un teulu a adleolir o Affganistan.

Ble fydd y teuluoedd yn byw?

Am resymau diogelwch ni allwn roi gwybodaeth ynglŷn â ble fydd y teuluoedd yn byw.

Allaf i wneud rhodd?

Yn anffodus ni allwn dderbyn rhoddion na phecynnau o nwyddau. Os hoffech chi wneud rhodd, cysylltwch â’r Groes Goch neu UNICEF: https://donate.redcross.org.uk/appeal/afghanistan-crisis-appeal / https://www.unicef.org.uk/donate/donate-and-help-protect-children-in-afghanistan/.

Mae gen i dŷ gwag yr hoffwn ei gynnig.

Cysylltwch â Datrysiadau Tai Conwy ar 0300 124 0050 neu datrysiadautai@conwy.gov.uk.

Byddai’n ddefnyddiol ichi gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Cyfeiriad yr eiddo, gan gynnwys y cod post
  • Y math o eiddo (tŷ, fflat ac yn y blaen)
  • Faint o le sydd yn yr eiddo (faint o bobl sy’n gallu byw ynddo)
  • Nifer y grisiau sy’n arwain at yr eiddo (mae hyn yn helpu i sicrhau llety addas ar gyfer pobl sy’n cael trafferth symud a babanod bach)
  • Hygyrchedd i gadair olwyn
  • A oes modd gwneud addasiadau (canllawiau ac ati)
  • Cynllun o’r ystafelloedd ar y llawr gwaelod a’r ail lawr (i roi syniad o gynllun yr eiddo ac unrhyw drafferthion posib gydag ystafelloedd ymolchi/ystafelloedd gwely
  • A oes unrhyw ystafelloedd â lle i welyau ychwanegol (er enghraifft, gellid troi ail lolfa’n ystafell wely ar y llawer gwaelod).

I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ymateb-penodol-cymru-ir-sefyllfa-yn-affganistan.

end content