Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cefnogaeth yn y cartref


Summary (optional)
Mae eich cynorthwyo chi â chadw eich annibyniaeth a byw yn eich cartref yn bwysig iawn i ni. Mae gennym therapyddion ac aseswyr hyfforddedig wrth law i’ch cefnogi chi.
start content

Gallech fod yn gymwys am gymorth os:

  • ydych dros 18 oed
  • yn byw ym Mwrdeistref Sirol Conwy
  • angen cymorth ymarferol oherwydd eiddilwch neu salwch, colli golwg neu glyw, anableddau corfforol neu anableddau dysgu.

Os ydych chi o’r farn eich bod chi, neu rywun rydych yn gofalu amdanynt, angen cymorth gyda bywyd bob dydd neu wella eich lles, cysylltwch â'n tîm am asesiad o’ch anghenion.

Eich asesiad

Er mwyn gweld faint o gymorth sydd ei angen arnoch, byddwn yn siarad â chi i ganfod beth sy’n bwysig i chi, a pha gymorth y gallech fod ei hangen i fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Bydd yr asesiad yn cael ei gynnal dros y ffôn neu yn eich cartref. Gallwch ofyn i ffrind, gofalwr neu berthynas fod gyda chi. Os ydych yn yr ysbyty, byddwn yn dod i siarad â chi cyn i chi gael eich rhyddhau. Gallwch ddweud wrthym pa gymorth y gallech fod ei angen yn y cartref tra rydych yn gwella.

Mae'r asesiad yn sgwrs ddwyffordd. Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym amdanoch chi eich hun, a sut rydych yn meddwl y gallwn ni eich helpu a'ch cefnogi. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am farn gweithwyr proffesiynol eraill sy'n eich adnabod chi ac yn gweithio gyda chi, fel eich meddyg, ond ni fyddwn yn gwneud hyn heb eich caniatâd.

Byddwn hefyd yn ystyried anghenion eich teulu neu ofalwr.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith byddwn wedi asesu eich anghenion ymarferol, gallwn lunio pecyn gofal tymor byr a fydd yn eich helpu i adennill neu wella eich annibyniaeth. Rydym yn galw hyn yn 'ail-alluogi'. Os byddwn yn cytuno bod gennych anghenion gofal parhaus ar ôl y cyfnod ail-alluogi, gallwn eich helpu i drefnu hyn.

Byddwn yn parhau i asesu eich anghenion i weld os oes yna unrhyw dasgau rydych yn dal i gael trafferth gyda nhw, a’ch bod angen cefnogaeth ar eu cyfer.

Byddwch yn cael asesiad ariannol i ganfod a oes rhaid i chi dalu unrhyw beth tuag at gost eich anghenion cefnogaeth parhaus. Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad yr asesiad, gallwch ofyn i ni edrych ar eich sefyllfa gyda chi eto. Os ydych yn dal yn anhapus, gallwch gysylltu â ni i roi sylw, awgrym neu gŵyn.

Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth parhaus gennym, byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau eraill sydd ar gael i'ch helpu i barhau i fyw'n annibynnol.

Cymorth pellach

 

end content