Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Strategaeth Tai Lleol Strategaeth Tai Lleol Strategaeth Tai Lleol 2018-2023

Strategaeth Tai Lleol 2018-2023


Summary (optional)
start content

Mae tai da yn allweddol i sicrhau ansawdd bywyd gwell, iechyd gwell a gall drechu tlodi.  Am y rheswm hwnnw felly, sicrhau bod gan bawb yn Sir Conwy rhywle fforddiadwy a phriodol i fyw yw prif gyfrifoldeb swyddogaeth tai strategol y Cyngor.

Mae llawer wedi’i gyflawni ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf yn 2013. Er enghraifft rydym wedi sefydlu Gwasanaeth Datrysiadau Tai Conwy, cyfrannu at adfywio Bae Colwyn a datblygu safle preswyl i Sipsiwn-Teithwyr.

Fodd bynnag, mae gwneud gwahaniaeth trwy dai yn dod yn fwyfwy anodd. Mae cryfder y farchnad dai a phwysau cynyddol ar incwm tai yn ychwanegu at y  pwysau cynyddol at y galw am  ein hadnoddau cyfyngedig.  

Mae’r strategaeth yn nodi sut y byddwn yn cynllunio i fynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu. Mae darparu datrysiadau yn rhywbeth gallwn ond ei ddarparu drwy weithio mewn partneriaeth effeithiol dros y sectorau tai preifat a thai cyhoeddus.

Fe luniwyd y Strategaeth Tai Lleol gan Bartneriaeth Strategol Tai Conwy ac mae’n eiddo iddynt hefyd. Ei nod yw gwneud y defnydd gorau o'n sgiliau ac adnoddau ar y cyd; i sicrhau bod ein hamcanion busnes yn cyd-fynd; ac yn y pendraw, i wneud y gorau y gallwn ni i wella'r dewisiadau tai yn Sir Conwy.

I gysylltu â’r Tîm Strategaeth Tai, neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 01492 574225 neu anfonwch neges e-bost i strategaethtai@conwy.gov.uk

Strategaeth Tai Lleol 2018 - 2023

end content