Rydym yn bwriadu gwneud rhagor o welliannau i’r safle bioamrywiaeth yn Brookfield Drive. Mae hyn yn cynnwys creu chwe phwll bywyd gwyllt bas, plannu coed brodorol ychwanegol, a gosod arwyddion dehongli a meinciau.
Mae’r safle ar orlifdir ac mae’n llawn o ddŵr yn aml. Rydym am greu amrywiaeth o gynefinoedd sy’n nodweddiadol mewn gorlifdiroedd yng ngogledd Cymru. Bydd y coed yn helpu i leihau pa mor aml mae’r tir yn llawn dŵr, a darparu dalfa garbon.
Rydym yn cynnig creu coetiroedd ar rannau uwch o’r cae, dolydd ar ardaloedd is a grŵp o byllau yn yr ardaloedd isaf, mwyaf gwlyb.
Mae posibilrwydd ar gyfer compostio yn y coetiroedd i’r de o’r pyllau. Bydd gosodiad y cynefin hwn yn cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau.
Dôl:
- amrywiaeth o blanhigion ac infertebratau
- gwych ar gyfer adar, ymlusgiaid ac amffibiaid
Coetir:
- coetiroedd gwlyb yw rhai o’n cynefinoedd lleiaf cyffredin
- gellir plannu coed helyg, bedw, gwern ac aethnenni duon
Pyllau:
- 5 pwll
- gwych ar gyfer amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebratau
- poblogaidd gydag adar a mamaliaid
Ychwanegiadau eraill:
- byrddau dehongli gyda llwybrau, pellteroedd, mannau o ddiddordeb a rhywogaethau o ddiddordeb
- dwy fainc bren ar hyd y llwybr cerdded
Sut fyddwn ni’n rheoli’r safle:
- byddwn yn cynnal a chadw’r llwybrau presennol a dorrwyd, a thorri’r dolydd unwaith y flwyddyn
- caiff toriadau glaswellt eu compostio mewn ardaloedd dynodedig ar y safle
- annog llwyni i dyfu ymhlith y coed i ddiogelu bywyd gwyllt
- monitro ac adrodd am rywogaethau
Cwestiynau ac atebion:
content
Bydd y gwaith yn dechrau yn 2026.
content
Na fydd, mae’r safle ar y cae 2 hectar i’r de o’r cae pêl-droed.
content
Ariennir y gwaith gan Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Ni fydd yn effeithio ar gyllidebau refeniw na pharciau.
content
Bydd y dolydd gwlyb yn cael eu torri o leiaf unwaith y flwyddyn ym mis Medi.
content
Mae croeso i bobl fynd â’u ci am dro ar y caeau.
content
Mae bin baw cŵn eisoes ym Maes Parcio Brookfield Drive.