Roedd Creaduriaid Cudd y Creuddyn yn brosiect dwy flynedd yn canolbwyntio ar drychfilod sy'n gysylltiedig â chynefinoedd calchfaen ar benrhyn y Creuddyn.
It was a partnership between Conwy County Borough Council, Natural Resources Wales and Butterfly Conservation.
Mae’r Gogarth a phenrhyn y Creuddyn yn eithriadol o bwysig ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r bryniau a’r clogwyni trawiadol wedi eu ffurfio o galchfaen ac mae’r glaswelltir ar y priddoedd tenau hyn yn gyforiog o flodau gwyllt gan gynnwys y Cor-rosyn Cyffredin melyn llachar a’r Cor-rosyn Llwyd prinnach, y Teim Gwyllt porffor, mân a’r Ro-rownd. Mae’r planhigion hyn yn rhoi bwyd a lloches i nifer o drychfilod rhyfeddol – llawer ohonynt yn rhai prin iawn sy’n hoff o’r llethrau cynnes sy’n wynebu’r de a’r de-orllewin.
Dechreuwyd prosiect Creaduriaid Cudd y Creuddyn i ddarganfod mwy am y trychfilod arbennig hyn a sut y gallwn eu helpu. Mae’r Glesyn Serennog a’r Gweirlöyn Llwyd yn ddau o loÿnnod byw eiconig ardal y Creuddyn, ac maent wedi eu hastudio’n fanwl dros y blynyddoedd. Er hynny, rydym ni’n gwybod tipyn llai am rai o’r gwyfynod a’r chwilod, sydd yr un mor arbennig, ac yn rhan mor annatod o gynefinoedd calchfaen yr ardal hardd hon.
Yn ystod 2024 a 2025 bu tîm y prosiect yn gweithio gydag arbenigwyr, myfyrwyr a gwirfoddolwyr lleol i wneud gwaith archwilio arbenigol i geisio dysgu mwy am ddosbarthiad y rhywogaethau prin hyn a’r amodau sy’n angenrheidiol iddynt ffynnu. Roedd rhai o’r canlyniadau yn hynod ddifyr ac annisgwyl!
Gwyfyn rhyfedd ond hardd a phluog yr olwg yw Gwyfyn Pluog y Ro-rownd.
Yng Nghymru, dim ond ar benrhyn y Creuddyn mae i’w weld bellach. Mewn mannau eraill, mae’n brin iawn mewn ardaloedd yn ne Lloegr.
Mae’r larfau yn bwydo ar y Ro-rownd a cafwyd hyd i 1,443 ohonynt ar y Gogarth yn 2024 - yn ôl pob golwg, mae’n gwneud yn dda!
Ffotograff © Iljia Vukomanovic
Gwyfyn lliw gwyrdd metelig, hardd sy’n hedfan yn ystod y dydd yw’r Coediwr Bach.
Yng Nghymru, dim ond ar benrhyn y Creuddyn mae i’w weld bellach. Yn Lloegr, mae i’w gael ar laswelltiroedd calch ond mae wedi diflannu o sawl un o’r ardaloedd hynny.
Mae’r larfau yn bwydo ar y Cor-rosyn Cyffredin. Cofnodwyd nifer dda ar y Gogarth yn 2024 ac mae i’w weld yn gwneud yn dda!
Ffotograff © Janet Graham
Gwyfyn del gyda sglein sidanaidd yw’r gwyfyn Ton Sidan – un prin iawn!
Yng Nghymru, dim ond ar y Gogarth ac arfordir De Gŵyr mae i’w weld. Yn Lloegr, dim ond yng Ngheunant Avon, ger Bryste mae i’w gael.
Mae’r larfau yn bwydo ar y Cor-rosyn Cyffredin ond mae angen llystyfiant talach a phrysgwydd ar ôl tyfu i’w lawn dwf i glwydo yn ystod y dydd. Cofnodwyd 265 ohonynt ar hyd y llwybr trawslun yn 2024 – y cyfrif uchaf erioed! Cawsant flwyddyn dda yn 2025 hefyd.
Ffotograff © Thom Dallimore
Gwiddonyn di-adain bychan yw Helianthemapion aciculare, sydd ond i’w gael ar y Gogarth drwy Brydain gyfan!
Daethpwyd o hyd iddo am y tro cyntaf ym Mhrydain ar y Gogarth yn 1992 a dyma’r unig le ym Mhrydain y gwyddom ei fod yn byw o hyd.
Mae’r larfau yn bwydo ar y Cor-rosyn. Ychydig iawn a wyddom am y ffordd maen nhw’n yn byw, ond credwn eu bod yn hoffi’r mannau cynhesaf ar y Gogarth. Maent bellach i’w gweld mewn pedwar lleoliad gwahanol.
Ffotograff © Nathan Jackson
Chwilen baill fechan yw Meligethes brevis ac mae’n hoff iawn o’r Cor-rosyn!
Yng Nghymru, dim ond ar benrhyn y Creuddyn mae i’w gweld. Yng ngweddill Prydain, dim ond mewn llond llaw o leoliadau yn Swydd Efrog a Durham mae wedi’i gweld.
Mae’r larfau yn bwydo y Cor-rosyn ac mae’r chwilod llawn-dwf yn barod iawn i hedfan. Mae’n gyffredin ar y Gogarth. Mae arolygon wedi eu hail-ddarganfod yn Nant y Gamar, Bryn Euryn a Phlas Marl, a chafwyd hyd i dri safle newydd yn ardal y Creuddyn.
Ffotograff © Janet Graham
Engaging the wider community
Gwahoddwyd y bobl leol i ddysgu mwy am y creaduriaid rhyfeddol hyn ar deithiau tywys a digwyddiadau, a thrwy gymryd rhan mewn arolygon.
Cyn y prosiect, roedd pryder bod y Brychan Cochddu, gwyfyn prin a geir ar ac o gwmpas llwyni meryw, wedi diflannu oddi ar y Gogarth. Diolch byth, gwelwyd nad oedd hynny’n wir.
Mae aelodau o’r gymuned wedi bod yn helpu i chwilio am lindys y Brychan Coch-ddu a naturiaethwr lleol oedd y cyntaf i gofnodi’r rhywogaeth yma mewn trap gwyfynod sydd wedi’i osod ar y Gogarth ers 2009. Bu gwirfoddolwyr lleol hefyd yn chwilio am Wyfyn Pluog y Ro-rownd a’r Coediwr Bach ar benrhyn y Creuddyn.
Mae ysgolion cynradd lleol wedi bod yn rhan o’r prosiect – bu tua 450 o blant o naw ysgol wahanol yn rhan o raglen weithgareddau arbenigol o’r enw ‘Elin y Cerrig - Ceidwad Coll y Calchfaen’ i ddysgu mwy am y trychfilod a’r cynefinoedd arbennig sydd yn eu hardal.
Rheoli cynefinoedd
Mae deall anghenion y gwahanol drychfilod yn allweddol i wneud yn siŵr ein bod yn rheoli eu cynefinoedd mewn ffordd sy’n sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen i ffynnu.
Mae pori gan ddefaid, geifr a chwningod yn hanfodol i gynnal y glaswelltir llawn Cor-rosod y mae cymaint o drychfilod yn dibynnu arno, ond mae rhai rhywogaethau hefyd angen ardaloedd o laswellt talach a phrysgwydd.
Weithiau mae angen torri prysgwydd a rheoli Cotoneaster anfrodorol er mwyn sicrhau nad ydynt yn ymledu i’r glaswelltiroedd. Gall trefn torri gwair ofalus hefyd arbed y glaswelltir rhag cael ei fygu gan wair bras ac mae’n help i warchod ardaloedd blodeuog.
Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
