Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Yr Olygfan


Summary (optional)
Os ydych chi’n chwilio am olygfa banoramig hardd, yna dyma’r safle i chi! Efallai nad yw’n fawr iawn ond mae’n hawdd ymweld â’r safle fel rhan o daith gerdded hirach, a chewch chi ddim eich siomi.
start content

Pam ymweld?

  • Golygfeydd panoramig

Pan fyddwch chi’n cyrraedd man uchaf y safle yma, fe fydd golygfeydd bendigedig o nifer o nodweddion amlwg Gogledd Cymru yn aros amdanoch chi. Gallwch edrych i lawr yr arfordir, i fyny tuag at Y Gogarth, ac ymhellach i’r gorllewin, mae ehangder mynyddoedd Eryri.

I fyny yn yr olygfan mae yna banel boglynnog gyda map wedi’i labelu o’r olygfa, gan ddangos enwau’r nodweddion y gallwch chi eu gweld.

Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Treftadaeth Bae Colwyn.

Beth i'w ddisgwyl

Mae prif fynedfa i’r safle trwy giât mochyn cul oddi ar Hafodty Lane. Mae yna fynediad anffurfiol ar ochr arall y gamfa (llwybr troed cyhoeddus Mochdre 04). Er mwyn cyrraedd y gamfa, mae llwybr yn rhedeg ar draws i fyny’r bryn o lle mae cul-de-sac Ffordd Uchaf yn cysylltu â Old Highway.  

Mae’r llwybr trwy’r safle yn gul ac yn anwastad, ac fe all fod yn eitha’ mwdlyd ar ôl glaw.  Er gwaethaf hyn, nid oes yna lawer o lethr (ond os byddwch chi’n dod i’r safle o’r caeau yn y gogledd orllewin yna fe fydd hi’n eithaf serth!)

Cyfleusterau

  • Mae llun panoramig mawr o’r olygfa sydd yn dangos enwau’r nodweddion y gallwch eu gweld ar ddiwrnod clir wedi’i osod yn yr olygfa yn y man uchaf ar y safle.

Mae da byw yn pori ar y safle:

  • Mae’n rhaid i gŵn fod ar dennyn
  • Cofiwch bigo baw eich ci i fyny

Darllenwch y Cod Cefn Gwlad cyn ymweld.

Darganfod y bywyd gwyllt

Mae’r safle yn eistedd ar ffurfiant carreg Elwy – carreg laid, lleidfaen a thywodfaen. Creigwely gwaddod a ffurfiwyd rhwng 427.4 a 423.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Silwraidd! O ganlyniad, i fyny ar y safle yma fe ddewch chi o hyd i blanhigion ac anifeiliaid sydd yn aml yn cael eu cysylltu â mathau agored o dirwedd, megis eithin Ewropeaidd sydd ag arogl cnau goco. Cadwch lygad am adar ysglyfaethus – mae’n dir hela perffaith ar gyfer y cudyll coch a bwncathod.

Ymhellach i ffwrdd, mae clychau’r gog a thafod yr edn i’w gweld ar y ddaear, yn cael eu cysgodi ychydig gan y llwyn sydd ag arogl fanila, banadl.

Sut ydym ni’n gofalu am y safle?

Mae ein Wardeniaid Cefn Gwlad yn ymweld yn rheolaidd i wirio am faterion diogelwch ac i gasglu sbwriel.

Sut i gyrraedd yno

Cerdded a beicio

Y cyfeirnod grid OS ar gyfer y fynedfa yw SH 834 779. O Ffordd Llanrwst yn Ucheldir Colwyn, cerddwch i lawr Mynydd Lane ac yn fuan wedyn ewch i’r dde ar hyd Hafodty Lane. Mae’r fynedfa i’r safle ar waelod y lôn ar iddo droi mewn i drac anwastad.

Defnyddiwch y cod post LL28 5YQ ar gyfer cyfarwyddiadau beicio. Mae’n bosibl y byddwch yn dewis cerdded y 200m olaf oherwydd y tir anwastad.

Cludiant Cyhoeddus

Y safle bws agosaf yw ‘Ucheldir Colwyn’ sydd yn cael ei wasanaethu gan lwybr bws Arriva 23 o Hen Golwyn.

Gyrru

Nid oes yna faes parcio ar gyfer y safle yma, ond fel rheol gallwch ddod o hyd i le i barcio ar y stryd tua 10 munud i ffwrdd. Defnyddiwch y cod post LL29 6DN i gael cyfarwyddiadau ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau cerdded. Cofiwch barcio’n ofalus ac ystyriol a dilyn Cod y Ffordd Fawr.


Safleoedd cyfagos

Mae ein safle ym Mryn Cadno yn agos ac mae modd cysylltu’n hawdd ar daith gerdded. Os hoffech chi gerdded yn bellach, beth am grwydro lawr yr allt i goetir eang ym Mhwllycrochan?

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content