Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwarchodfa Natur Leol Coed Pwllycrochan


Summary (optional)
start content

Cyfeirnod grid: SH 845784.

Mae'r coetir amlwg hwn i'w weld ar hyd y llethrau tu ôl i Fae Colwyn. Mae'r coed bron i gyd yn rhai deilgoll gydag amrywiaeth o goed cynhenid a rhywogaethau egsotig fel castanwydden bêr a phinwydd. Mae'r coed aeddfed yn rhoi cymeriad i'r goedwig tra bod y ddwy afon yn creu nodwedd ddeniadol wrth iddynt droelli drwy'r glyn serth yn rhan hynafol y goedwig. Ymhlith yr adar a welir mae Sgrech y Coed, Bwncath, Telor y Cnau, y Gnocell Fraith Fwyaf, Dringwr Bach, a'r Dylluan Frech.

Credir bod yr enw Pwllycrochan yn cyfeirio at yr afon sy'n rhedeg drwy'r glyn coediog serth. Byddai hon ar un adeg wedi llifo'n llawer cyflymach, gan greu dŵr byrlymus, llawn ocsigen. Cyhoeddwyd bod Coed Pwllycrochan yn Warchodfa Natur Leol (LNR) yn 2000 ynghyd â sefydlu Grŵp Rheoli Ymgynghorol. Mae'r grŵp yn goruchwylio'r Warchodfa, tra'n ystyried y gwahanol fuddiannau sy'n bodoli ar y safle. Yn y Cynllun Rheoli, ceir amcanion ar gyfer rheoli'r Warchodfa Natur Leol hon ynghyd â manylion ynghylch sut i gyflawni’r amcanion.

Mae King's Drive a Llanrwst Road yn rhannu'r safle 21 ha yma yn dair rhan. Wrth fynedfa rhan ganol y coetir ceir panelau dehongli. Mae'r rhain yn helpu i egluro'r hanes a'r bywyd gwyllt tra'n defnyddio map i ddangos nifer o lwybrau cylchol efo cyfeirbwyntiau arnynt.

Gweler isod am gopi PDF o’r llwybr cerdded/ y daflen hon.

Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i’w prynu. Ewch i’n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.

Y Cod Cefn Gwlad  

Coed Pwllycrochan

end content