Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ardaloedd Chwarae


Summary (optional)
start content

Mae’r rhan hon wedi’i dynodi’n barth teuluoedd ac rydym eisiau creu lle hygyrch a chroesawus i deuluoedd ar y promenâd. 

 playarea1

playarea2Fel rhan o’r gwelliannau byddwn yn creu chwe ardal chwarae ar wahân i blant eu mwynhau wrth iddynt gerdded ar hyd y promenâd. 

Bydd yr ardaloedd chwarae hyn yn cynnwys::

  • cromenni camu a thrawstiau cydbwysedd
  • llwybrau chwarae egnïol 
  • offer ‘parkour’
  • polion totem
  • offer chwarae acwstig
  • marciau ‘hopscotch’ 
  • byrddau cyfathrebu drwy luniau

 

Chwarae Hygyrch

Rydym wedi dylunio’r ardaloedd chwarae i fod yn ddeniadol ac yn hygyrch i bob plentyn. Nid yw pob plentyn yn gallu defnyddio offer chwarae safonol. Cafodd peth o’r offer ei ddewis yn arbennig ar gyfer symbyliad synhwyraidd ac i annog rhyngweithio â’r amgylchedd.

Diogelwch

playarea3Bydd yr ardaloedd chwarae wedi’u marcio’n glir ac wedi’u gwahanu’n ddiogel oddi wrth y llwybr cerdded a beicio er mwyn rhoi lle diogel i blant chwarae. 

 




Tudalen nesaf

end content