Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trosolwg o Gynigion Amddiffyn yr Arfordir


Summary (optional)
start content

Trosolwg o Gynigion Amddiffyn yr Arfordir

Beth yw’r broblem?

Mae cyflwr yr amddiffynfeydd arfordirol ar hyd y darn hwn o’r arfordir yn amrywio. Nid ydynt wedi cael eu dylunio ar gyfer y codiad a ragwelir yn lefel y môr a’r stormydd mawr y gallwn eu disgwyl yn y dyfodol.

Beth yw’r cynlluniau?

Mae’r amddiffynfeydd arfordirol presennol yn wal gynnal Towyn, o flaen parc gwyliau Golden Sands, yn cynnwys gwrthglawdd creigiau mawr. Mae’r gwrthglawdd creigiau mewn cyflwr da ond nid yw’n ddigonol i amddiffyn rhag y codiad yn lefel y môr a’r stormydd cynyddol. Mae’r cynlluniau'n cynnwys codi a lledu’r gwrthglawdd creigiau a chodi’r morglawdd.

Mae’r amddiffynfa arfordirol ar hyd blaen Gorllewin Bae Cinmel yn cynnwys morglawdd heb unrhyw wrthglawdd creigiau. Ar hyn o bryd mae’r morglawdd gorllewinol yn rhy isel i amddiffyn yr arfordir yn ddigonol rhag llifogydd, felly mae’r cynlluniau'n cynnwys codi’r morglawdd er mwyn amddiffyn yr arfordir yn well.

Mae gan Ddwyrain Bae Cinmel forglawdd ar hyn o bryd gyda gwrthglawdd creigiau. Bydd y gwrthglawdd creigiau hwn yn cael ei godi a’i ledu, a bydd y morglawdd yn cael ei godi’n uwch.

Pwy sy’n ariannu hyn?

Rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Raglen Rheoli Risg Arfordir Llywodraeth Cymru ar gyfer 85% o gostau’r gwaith adeiladu. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ariannu’r 15% sy’n weddill.

Beth sy’n digwydd?

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2022 a 2023, rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r cynllun hwn ym mis Hydref 2023.Rydym wedi penodi contractwr a bydd gwaith ar y cynllun hwn yn dechrau yn ddiweddarach yn 2024. Cyn hynny, bydd y contractwr yn gweithio ar elfennau dylunio a phentyrru deunyddiau.Disgwyliwn i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yn ystod gaeaf 2025/26.


wg-ccbc

Tudalen nesaf

end content