Trosolwg o’r Gwelliannau i Fannau Cyhoeddus
Mae dwy elfen ynghlwm wrth y cynlluniau ar gyfer mannau cyhoeddus yng Nghynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel:
1. Gwella Mynediad Lle bo hynny’n bosibl, rydym wedi cynnwys seddi wrth bwyntiau mynediad i’r traeth, er mwyn galluogi ymwelwyr a thrigolion i fwynhau’r golygfeydd panoramig o’r môr. Bydd y pwyntiau mynediad i’r traeth yn cael eu hintegreiddio yn y morglawdd fel nad ydynt yn effeithio ar led llwybr yr arfordir.
- Creu mynedfa ramp newydd gyda giât llifogydd wedi’i huwchraddio ger Maes Carafanau Sunnyvale
- Gwella 2 bwynt mynediad fel eu bod yn cynnwys rampiau cwbl hygyrch (ger Parc Carafanau Sunnyvale, Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel a chymuned Sandy Cove)
- Gwella 3 phwynt mynediad i greu grisiau gyda rampiau a seddi integredig yn wynebu’r môr (ger Baysville Coffee and Grill, Gwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel a chymuned Sandy Cove)
- Gwella 2 bwynt mynediad gyda grisiau i lawr i’r wal gynnal wedi’i gwella ger parc gwyliau Golden Sands
- Newid y llifddor ger maes parcio Traeth Cinmel (ym mhen draw St Asaph Avenue)
2. Gwella dwy ardal gyhoeddus allweddol i greu parciau bach, sydd fel arfer yn cynnwys seddi, darpariaethau chwarae anffurfiol a gwelliannau ecolegol.
Tudalen nesaf