Trosolwg o Gynigion Ecolegol
Mae arfordir Bae Cinmel yn bwysig i nifer o gynefinoedd a rhywogaethau arfordirol. Mae traethellau tywod a llaid a dŵr agored o’r lan yn darparu cynefinoedd i rywogaethau adar sydd o bwys rhyngwladol, a rhywogaethau pysgod. Mae mamaliaid y môr (gan gynnwys morloi, llamhidyddion a dolffiniaid) yn dod i chwilota am fwyd yn y dŵr agored o flaen y bae.
Yng Ngwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel gerllaw’r safle, mae cynefin twyni tywod sydd â rhywogaethau planhigion, infertebratau ac ymlusgiaid prin. Fel rhan o’r gwaith ar yr amddiffynfeydd arfordirol, byddwn yn gwella’r cynefin hwn trwy wneud gwaith rheoli fel clirio prysglwyni a chael gwared ar rywogaethau ymledol.
Tudalen nesaf