Personél Morol
Mae hyfforddiant priodol ac effeithiol a chymhwysedd personél gweithrediadau morol yn elfennau hanfodol i hwyluso diogelwch morwriaeth. Yn unol â Chod Diogelwch Porthladdoedd a Chyfleusterau Morol (PMSC), mae Polisi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) yn nodi fel yr Awdurdod Harbwr Statudol bydd yn:
- Addasu’r safonau cymhwysedd ar gyfer personél morol sy’n gysylltiedig â PMSC neu ddangos fod unrhyw safonau a ellir eu haddasu fel dewisiadau amgen yn gwbl gyfwerth.
- Sicrhau fod adnoddau digonol ar gael i gynnal y safonau sefydledig o gymwyseddau a hyfforddiant.
- Asesu addasrwydd holl unigolion sydd wedi’u penodi i swyddi gyda chyfrifoldeb ar gyfer diogelwch morol, er mwyn sicrhau fod y safonau cymhwysedd gofynnol wedi’u bodloni. Ystyrir y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn sail ar gyfer recriwtio a datblygu staff.
- Sefydlu a chynnal amserlen barhaus, briodol ac effeithiol o hyfforddiant gweithredol morol ar gyfer ei weithwyr morol.
- Sicrhau bod yr holl staff morol wedi’u hyfforddi’n briodol ac yn gymwys ar gyfer y tasgau maent yn debygol o’u cyflawni.
- Sefydlu a chynnal amserlen barhaus ac effeithiol o hyfforddiant ac ymarferion ymateb a rheoli argyfyngau.
- Sefydlu ac adolygu rhaglen asesu ar gyfer holl hyfforddiant morol er mwyn sicrhau y cynhelir safonau. Yn benodol, bod yr holl hyfforddiant yn briodol, yn berthnasol, yn gost effeithiol ac yn bodloni anghenion staffio gweithredol.
- Sicrhau bod cofnodion hyfforddi priodol yn cael eu cynnal trwy’r Matrics Hyfforddiant Morol. Adnoddau Dynol AFfCh i gadw copïau o gofnodion staff ar ffeil.
- Cyn i staff allu cael eu hystyried ar gyfer rolau a chyfrifoldebau ychwanegol, mae’n ofynnol iddynt gynnal cofnodion o asesiadau / hyfforddiant trwy lyfr cofnod hyfforddiant. Defnyddir y cofnod hwn i sicrhau fod staff wedi bodloni’r cymwyseddau gofynnol cyn cymryd rolau a chyfrifoldebau.
Personél nad ydynt yn Forol
- Sefydlu a chynnal amserlen barhaus, briodol ac effeithiol o hyfforddiant diogelwch perthnasol ar gyfer staff nad ydynt yn bersonél morol.
- Sicrhau bod yr holl staff wedi’u hyfforddi’n briodol ar gyfer y tasgau maent yn debygol o’u cyflawni.
- Sicrhau bod cofnodion hyfforddi priodol yn cael eu cadw.