Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tocyn Darllenydd (Cerdyn Archifau)


Summary (optional)
Os ydych chi’n bwriadu defnyddio archifau gwreiddiol, bydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer tocyn darllenydd.
start content

I weld y dogfennau gwreiddiol, bydd yn rhaid i chi gael Cerdyn Archifau.  Mae’r cerdyn newydd hwn wedi disodli’r Tocyn Darllenydd CARN (Rhwydwaith Ymchwil Archifau’r Sir, County Archives Research Network) blaenorol. Os oes gennych chi hen Docyn CARN, mae bellach wedi darfod a bydd angen i chi gael cerdyn newydd.

Sut i gael Cerdyn Archifau

Tocyn darllenydd archifau unigol yw’r Cerdyn Archifau ac mae’n rhoi mynediad ichi i doreth o ddeunyddiau archif gwreiddiol mewn archifdai ledled y Deyrnas Unedig. Caiff unrhyw un sy’n 14 oed neu drosodd wneud cais am Gerdyn Archifau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n ddilys am bum mlynedd.

Mae angen ichi wneud cais am Gerdyn os ydych yn dymuno gweld dogfennau gwreiddiol yn unrhyw un neu ragor o'r archifau sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Gallwch ddechrau’r broses gofrestru syml heddiw drwy glicio ar y ddolen ar waelod y tudalen sy'n mynd â chi yn syth i’r ffurflen gais.

I orffen cofrestru, bydd angen ichi ymweld ag un o'r archifau sy'n cymryd rhan yn y cynllun o fewn tri mis ar ôl cyflwyno’ch ffurflen, gan fynd â dau fath o ddogfen adnabod, un o’r naill a’r llall o’r ddwy restr isod. Bydd aelod o staff yr archifau’n gwirio bod y rhain yn ddilys ac, os ydyn nhw, yn rhoi’ch Cerdyn i chi.


I arbed amser ar ôl cyrraedd, rydym yn argymell eich bod yn dechrau cofrestru ar-lein cyn eich ymweliad. Wedyn, y cyfan y bydd rhaid ichi ei wneud pan fyddwch yn ymweld â’r archif yw profi pwy ydych chi.

Mae ffotograff pasbort diweddar (pen ac ysgwyddau yn unig) ar ffurf electronig yn rhan hanfodol o'r broses gofrestru.  Gallwch naill ai ychwanegu hwn at eich ffurflen gofrestru eich hun neu aros nes y byddwch yn ymweld ag archif o’ch dewis i orffen cofrestru, lle bydd aelod o’r staff yn tynnu’ch llun.

Mae angen ichi gwblhau'r broses gofrestru o fewn tri mis ar ôl cyflwyno’ch ffurflen, neu fel arall caiff ffurflen ei dileu a bydd rhaid ichi deipio’ch manylion eto.

Mae cynllun y Cerdyn Archifau’n cael ei weithredu gan ARA Commercial, sy’n is-gwmni i’r Gymdeithas Archifau a Chofnodion, sef y prif gorff i archifau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

www.archivescard.com

Pa ddogfennau adnabod y mae angen imi eu dangos?

Mae’r dogfennau adnabod y mae angen eu dangos i staff yr archifau pan fyddwch yn gorffen cofrestru i’w gweld isod a dylech ddewis un o restr A ac un o restr B

Rhaid i bob dogfen y byddwch yn ei defnyddio i brofi pwy ydych chi fod yn fersiynau cyfredol a/neu y rhai mwyaf diweddar pan fyddwch yn eu dangos.  

Sylwer: pan fo’r un ddogfen (megis trwydded yrru) yn ymddangos yn rhestr A ac yn rhestr B, chewch chi ddim defnyddio'r un ddogfen fel eich prawf adnabod a’ch prawf cyfeiriad.

A.  Prawf adnabod (rhaid iddo gynnwys llofnod dilys):

  • Pasbort 
  • Trwydded yrru
  • Cerdyn banc 
  • Cerdyn credyd 
  • Cerdyn adnabod staff y Llywodraeth / cyngor lleol
  • Cerdyn adnabod dinesydd o’r Deyrnas Unedig neu wladolyn arall o’r Undeb Ewropeaidd
  • Cerdyn gwarant Heddlu / Tollau / Swyddfa Gartref
  • Cerdyn adnabod Lluoedd Ei Mawrhydi
  • Trwydded Meistr Môr/Awyr 
  • Cerdyn NUJ 

B.  Prawf cyfeiriad:

  • Trwydded yrru gyda chyfeiriad
  • Trwydded deledu
  • Bil cyfleustodau (a anfonwyd yn ystod y tri mis diwethaf) 
  • Cyfriflen banc / cymdeithas adeiladu (a anfonwyd yn ystod y tri mis diwethaf) 
  • Cyfriflen cerdyn credyd (a anfonwyd yn ystod y tri mis diwethaf) 
  • Bil treth gyngor / llyfr rhent cyngor (y bil mwyaf diweddar)
  • Cyfriflen Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi 
  • Pasbortau gyda chyfeiriad (pan fo’r cyfeiriad wedi’i roi’n swyddogol gan yr awdurdod a roddodd y pasbort) 
  • Cerdyn adnabod dinesydd o’r Deyrnas Unedig neu wladolyn arall o’r Undeb Ewropeaidd gyda chyfeiriad
  • Trwydded i aros gan y Swyddfa Gartref 
  • Tystysgrif prifysgol ar gyfer neuadd breswyl (wedi’i stampio ac wedi’i lofnodi gan y sefydliad) 
  • Trwydded Dryll o’r Deyrnas Unedig 
  • Polisi yswiriant cartref (rhaid i’r polisi fod mewn grym)
  • Cerdyn ffotograff rhyngwladol i fyfyriwr

 

end content