Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prynu copïau o'r Archifau


Summary (optional)
Os ydych yn dymuno prynu copïau o ddogfennau yn yr Archifau, llenwch a dychwelwch y ffurflen isod.
start content

Llenwch y Ffurflen Archebu a Hawlfraint isod, gan ddyfynnu cyfeirnodau’r ddogfen/dogennau rydych eu heisiau.  Os nad ydych yn gwybod hyn, gallwch ddod o hyd iddo drwy naill ai chwilio drwy ein Catalog Ar-Lein neu gysylltu â’r Gwasanaeth Archifau am gymorth.

O bryd i’w gilydd, nid oes modd gwneud copïau gan fod y ddogfen yn rhy fregus, neu ei bod yn cynnwys data personol caeedig dan Ddeddf Diogelu Data 2018 ac/neu mewn rhai achosion oherwydd cyfyngiadau hawliau eiddo deallusol.  Bydd y Gwasanaeth Archifau’n rhoi gwybod i chi os yw hyn yn wir.

Os ydych yn bwriadu defnyddio copïau i’w cyhoeddi, rhaid i chi nodi hyn yn glir ar y ffurflen. 

Darperir copïau am ffi fechan, sy’n amrywio gan ddibynnu ar natur y copi a’r hyn mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.  I gael y rhestr ddiweddaraf o Ffioedd a Thaliadau, gweler y Gwasanaethau Eraill a Ddarperir gan yr Archifau.

end content