Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tir Comin a Grîn Pentrefi


Summary (optional)
Mae'r Cyngor yn cynnal manylion yr holl diroedd comin a grîn pentrefi sydd ar gofrestri, sydd ar agor i'r cyhoedd eu harchwilio.
start content

Mae Tir Comin yn destun "hawliau comin" megis yr hawl i bori stoc neu'r hawl i gasglu pren neu laswellt.  Nid yw'r hawliau hyn ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol ond i gominwyr dynodedig, fel arfer drwy'r hawl sy'n gysylltiedig â'r eiddo y maent yn ei feddiannu, sy'n aml yn gysylltiedig â chomin cyfagos.

Ers 1996, cynhelir Cofrestr Tir Comin yn yr Uned Pridiannau Tir Lleol. Mae'r gofrestr o diroedd comin ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd, yn rhad ac am ddim a gellir ei gweld yn y swyddfa hon.

Hyd 5 Mai 2017 roeddem yn gweithio dan ddeddfwriaeth a grëwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965. Ers 5 Mai 2017 mae modd i’r cyhoedd ymgeisio i wneud newidiadau i Gofrestr Tiroedd Comin Cymru, os ydynt yn credu bod eu cais yn gywir a bod ganddynt dystiolaeth i gefnogi hynny.

Mae amrywiaeth o geisiadau yn awr ar gael ar gyfer gwneud cais i newid neu gywiro'r cofrestrau tiroedd comin a meysydd tref a phentref o dan Deddf Tiroedd Comin 2006. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd ffi yn daladwy. Gweler y Ffioedd Ymgeisio isod am ragor o fanylion.

Ffurfenni Cais

I ymgeisio i ddiwygio’r cofrestrau tir cyffredin a threfi neu bentrefi ewch i wefan Llywodraeth Cymru, a lawrwytho’r ffurflenni perthnasol.

Fe'ch cynghorir i ddarllen y Canllawiau i Ymgeiswyr sydd i’w gweld ar y ddolen uchod.

Unwaith y byddwch wedi llenwi’r ffurflenni, anfonwch nhw at:

Cyfeiriad Post:
Claire Scott-Jones
Pridiannau Tir Lleol                          
BLWCH POST 1
CONWY
LL30 9GN

 

Dewch i’n gweld yn:

Pridiannau Tir Lleol
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Coed Pella
Conway Road
Bae Colwyn
CONWY                                                    
LL29 7AZ

 

Ffioedd ymgeisio

Mae'r dudalen hon yn egluro'r ffioedd sy'n daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel yr awdurdod cofrestru tiroedd comin ar gyfer sir Conwy.

Y ddarpariaeth, neu dibenion y ddarpariaeth, ar gyfer gwneud y cais Diben y caisFfi Ymgeisio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Adran 19 (2) (a) neu (c) o Ddeddf 2006. Cywiro camgymeriad a wnaed gan yr awdurdod cofrestru neu dynnu cofrestriad dyblyg o'r gofrestr  Dim ffi
Adran 19 (2) (b) o Ddeddf 2006. Cywiro, at ddiben a ddisgrifiwyd yn adran 19(2)(b) £306
Adran 19 (2) (d) neu (e) o Ddeddf 2006. Cywiro, i ddiweddaru manylion enw neu gyfeiriad, neu i gofnodi ail-gronni neu wanhad  £51
Atodlen 2, paragraff 2 neu 3, i Ddeddf 2006 Peidio â chofrestru tir comin neu faes y pentref Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 4 i Ddeddf 2006 Tir gwastraff maenor nad yw wedi'i gofrestru fel tir comin  Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 5 i Ddeddf 2006 Maes y pentref neu dref a gofrestrwyd yn anghywir fel tir comin  Dim ffi
Atodlen 2, paragraff 6 - 9, i Ddeddf 2006 Datgofrestru tir penodol a gofrestrwyd fel tir comin neu fel maes y pentref neu dref  £2,040
Rheoliad 53 Darparu copïau swyddfa (fesul uned cofrestr)  £25.50
Adran 15 (1) o Ddeddf 2006 Cofrestru llain tref neu bentref newydd, heblaw gan y perchennog Dim ffi
Adran 15 (8) o Ddeddf 2006 Cofrestru llain tref neu bentref newydd Dim ffi

 

end content