Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyflwyno Chwiliad Tir Comin a Grîn Pentref (CON29 (0))


Summary (optional)
Bydd chwiliad yn dangos a yw’r tir wedi’i gofrestru fel tir comin neu faes pentref ac a yw'n ddarostyngedig i hawliau comin neu hawliadau perchnogaeth.
start content

Gallwch ofyn am Chwiliadau Tir Comin drwy gyflwyno Ffurflen CON29 (O) a gofyn am Gwestiwn 22.

Dylech gynnwys cynllun a ffi o £16.80 (yn cynnwys TAW). 

Ffioedd Pridiannau Tir Lleol

Bydd Cwestiwn 22 yn cadarnhau a yw’r tir wedi’i gofrestru fel tir comin neu faes pentref ac a yw’n ddarostyngedig i hawliau comin neu hawliadau perchnogaeth.

Cyflwyno eich cais ar-lein

Gallwch gyflwyno Cwestiwn 22 yn electronig ar Ffurflen CON29 (O) fel cwestiwn ychwanegol wrth gyflwyno chwiliad awdurdod lleol llawn drwy ein cyfleuster ar-lein.

Y ffi yw £16.80 yn cynnwys TAW ar gyfer Cwestiwn 22.

Gellir talu drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd drwy ffonio 01492 576 095 neu 01492 576 094.

Er mwyn osgoi oedi, rhaid cyflwyno’r holl geisiadau gyda chynllun, gan farcio ffin yr eiddo neu ardal yn glir.  Rhaid i’r cynllun hefyd ddangos y ffyrdd a’r eiddo cyfagos.

Amser ymateb

Ceisiwn ymateb i’ch cais o fewn 2 i 3 diwrnod gwaith.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content