Estynnodd y Cyngor wahoddiad i bobl gyflwyno tir ar gyfer cael ei ystyried i'w gynnwys yng Nghynllun Datblygu Lleol 2018- 2033 (CDLl) nesaf Sir Conwy. Roeddem yn chwilio am safleoedd ymgeisiol am ystod o ddefnydd tir gan gynnwys tai, gwaith, manwerthu, hamdden ac ati.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn safleoedd posib' bellach fel rhan o Gam 3.
Derbynion ni gyfanswm o 175 safle, at ddefnydd preswyl yn bennaf. Mae pob safle posib’ y derbynion ni wedi’u rhestr fesul anheddiad ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol. Ni ddylai’r ffaith bod safle ymgeisiol wedi cael ei gynnwys ar y gofrestr, gael ei ddehongli fel ymrwymiad i gyflwyno’r safle hwnnw ymlaen i’r CDLl nesaf.
Trwy ddefnyddio’n map gallwch weld yr holl safleoedd ymgeisiol. Cliciwch ar y botwm gwybodaeth i weld cyfeirnod y safle.
Galw am safleoedd i godi tai fforddiadwy
Mae'r Cyngor bellach yn gwahodd pobl i gyflwyno tir er mwyn i ni ystyried ei gynnwys yn CDLI Newydd Conwy i godi datblygiad lle mae o leiaf 50% o'r tai yn dai ffoddiadwy. Gallwch gyflwyno eich safle drwy ein tudalen we ar gyfer safleoedd ymgeisol.
Proses Asesu
Gellir gweld y broses asesu yma:
Proses Asesu Safleoedd Ymgeisiol
Sylwadau am Safleoedd Ymgeisiol
Gallwch weld yr holl sylwadau a dderbyniwyd i'r Safleoedd Ymgeisiol drwy'r system ymgynghori ar-lein neu yn yr adroddiad sylwadau.
System Ymgynghori
Adroddiad Sylwadau (PDF)
Safleoedd a gyflwynwyd ar ôl yr ymgynghoriad
Rydym wedi derbyn rhai safleoedd i’w hystyried ers yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth a Ffefrir.
Rydym wedi eu hychwanegu i'r map safleoedd ymgeisiol a byddwn yn eu hasesu am eu haddasrwydd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Cewch gyfle i gynnig sylwadau ar y safleoedd newydd hyn pan gyhoeddwn y Cynllun Datblygu Lleol i'w archwilio gan y cyhoedd (Gweler amserlen y Cynllun Datblygu Lleol yn y Cytundeb Cyflawni ar gyfer dyddiad yr ymgynghoriad).
Roedd yr ymgynghoriad ar y safleoedd ymgeisiol yn rhan o’r Strategaeth a Ffafrir
Cyfarwyddiadau'r System Ymgynghori (PDF)