Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ardoll Seilwaith Cymunedol


Summary (optional)
start content

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn fecanwaith gwirfoddol sy'n caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr godi tâl safonol ar y rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd i ariannu'r isadeiledd sydd ei angen i gefnogi'r datblygiadau.  Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol wedi ei chynllunio i ddisodli'r system bresennol o ymrwymiadau cynllunio.

Nododd y Llywodraeth reolau trosiannol tan fis Ebrill 2015; ers hynny efallai na fydd Awdurdod Cynllunio Lleol yn gofyn am gyfraniadau ar gyfer adnoddau cyfun, er enghraifft cyfraniadau at fannau chwarae, drwy gytundebau Adran 106.  Dylid cwtogi ar rwymedigaethau cynllunio er mwyn ymdrin â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy a mesurau penodol i safle sydd eu hangen i liniaru effaith datblygiad.

Os a phryd y bydd y Cyngor yn mabwysiadu atodlen codi tâl ASC dylid cydnabod y bydd y rhan fwyaf o’r isadeiledd yn cael ei ddarparu drwy ASC nid A106.  Bydd angen rhai mathau o ddatblygiadau ar ASC i dalu ffi yn seiliedig ar faint datblygiad.  Yn wahanol i Rwymedigaethau Cynllunio nid oes modd trafod ASC. 

Ar ôl i'r Cynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu, gwnaed rhywfaint o gynnydd o ran mabwysiadu ASC yng Nghonwy ond cafodd hyn ei ohirio tra bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r ASC.  Mae gwaith tuag at ddrafftio atodlen codi tâl ASC bellach yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r CDLl Newydd.

Dolenni Allanol

end content