Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Oedolion Cefnogaeth yn y cartref Tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol o fewn Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol o fewn Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth


Summary (optional)
Mae’r tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda phobl i’w helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi.
start content
OTITeam

Mae’r tîm Derbyn Therapydd Galwedigaethol wedi ei staffio gyda Therapydd Galwedigaethol arweiniol a Chynorthwywyr Therapydd Galwedigaethol.

Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a cymorth i hyrwyddo diogelwch ac annibyniaeth yn amgylchedd y cartref.

Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu goresgyn y rhwystrau sy’n eich atal rhag gwneud y pethau rydych eisiau eu gwneud, neu angen eu gwneud i fyw bywyd mwy diogel ac annibynnol.

Os ydym yn ymweld â chi yn eich cartref, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod datrysiadau i unrhyw anawsterau yr ydych yn eu profi o ran byw o ddydd i ddydd.  Byddwn yn trafod yr hyn sy’n bwysig i chi.

Gall hyn ymwneud â mynd mewn ac allan o’ch eiddo, cael mynediad at doiled addas neu ddefnyddio cyfleuster ymolchi.  Gallwn ddangos techneg wahanol i chi, neu ddarparu offer neu reilen i'ch helpu chi.

Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol yn canolbwyntio ar ddatrysiadau ataliol tymor byr.  Os credwn fod eich anghenion yn rhai hirdymor, byddwn yn anfon eich manylion i dimoedd gwahanol a fydd yn gallu mynd i'r afael â'ch anghenion.

Gallwch gysylltu â thîm Derbyn Therapi Galwedigaethol drwy Un Pwynt Mynediad a fydd yn sgwrsio â chi dros y ffôn. Gallent hefyd eich cynorthwyo drwy eich atgyfeirio at asiantaethau priodol i gael cymorth, a lle bynnag bosib', eich atgyfeirio at y tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol.

Rhif ffôn Un Pwynt Mynediad yw 0300 456 1111

Os ydych chi'n 60 oed neu hŷn ac yn byw mewn eiddo a berchnogir yn breifat neu wedi’i rentu’n breifat, mae  Care & Repair yn cynnwys gwasanaethau sy’n cynnwys eich cynorthwyo i wella, trwsio neu addasu eich cartref.

Efallai bydd y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol:

Hawliau Lles

Lles Cymunedol

Tîm Gofalwyr Conwy

Age Connects

Dewis Cymru

end content