Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teleofal Conwy


Summary (optional)
Gall Teleofal roi tawelwch meddwl y bydd rhywun yn cael gwybod yn awtomatig os ydych angen cymorth neu os bydd argyfwng yn digwydd.
start content

Telecare Process

 

Beth yw Teleofal?

Mae Teleofal Conwy yn cefnogi ystod o unigolion drwy ddarparu technoleg o fewn y cartref. Gall hyn ddatgelu cwympiadau, gwella diogelwch yn eich cartref, neu ganu larwm yn y gwasanaeth monitro 24/7 dwyieithog.

Mae mwy a mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o dechnoleg i gynorthwyo pobl i aros yn ddiogel ac yn annibynnol yn y gymuned. Bydd Teleofal Conwy yn gweithio gyda chi i geisio canfod ffyrdd gwahanol i ddiwallu eich anghenion drwy ddefnyddio offer a thechnoleg newydd Teleofal. 

Beth sy'n cael ei gynnwys?

Mae’r pecyn Teleofal sylfaenol yn cynnwys rhentu, cynnal a chadw a monitro’r offer canlynol canlynol:

  • Blwch Llinell Fywyd
  • Larwm Gwddf
  • Synwyryddion mwg
  • Sêff Allweddi

Cost

  • Ffi unwaith yn unig o £35 am osod + £1.03 y diwrnod

Mae offer ychwanegol / arbenigol ar gael yn dilyn argymhelliad gweithiwr iechyd proffesiynol.

Sut ydw i’n atgyfeiro?

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gofrestru ar gyfer Teleofal , neu lawrlwythwch gopi papur gofrertru Teleofal i’w lenwi a’i ddychwelyd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Teleofal Conwy
Storfa Benthyg Cyfarpar Cymunedol
Ysbyty Bryn y Neuadd
Aber Road
Llanfairfechan
LL33 0HH

E-bost: teleofal@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 577560
Ffacs: 01492 577594

 

Tudalennau defnyddiol eraill

Dewis Cymru

Galw Gofal

Paratoi Taliad Debyd Uniongyrchol

Un Pwynt Mynediad Conwy

Tîm Gofalwyr Conwy

Hawliau Lles

end content