Manylion y cwrs:
NOD: Bydd y gofalwr maeth yn gallu nodi cam datblygiad y plentyn yn y lleoliad ac effaith eu profiadau blaenorol ar hynny. Bydd y gofalwr maeth yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i addasu eu dulliau rhianta a gofalu.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Grŵp targed |
Dydd Llun 25 Medi 2023
|
9.30am-12.30pm
|
Zoom
|
Y Bont
|
Gwasanaethau Targed – Gofalwyr Maeth a Gofalwyr Unigolyn Cysylltiedig |
Dydd Mawrth 6 Chewfror 2023
|
9.30am-12.30pm
|
Zoom
|
Y Bont
|
Gwasanaethau Targed – Gofalwyr Maeth a Gofalwyr Unigolyn Cysylltiedig |
Nodau ac amcanion y cwrs:
Canlyniadau Dysgu:
- Gwybodaeth am gerrig milltir datblygiadol allweddol plant a phobl ifanc (0-18)
- Archwilio’r cysylltiad rhwng chwarae a datblygiad
- Ystyried y ffactorau sy’n gallu oedi neu gael effaith ar ddatblygiad plentyn (e.e. profiadau drwg yn y blynyddoedd cynnar, effaith trawma a maetheg).
- Deall yr angen i fodloni cam datblygu’r plentyn yn hytrach na’u hoedran cronolegol
- Ystyried dulliau gofalwyr maeth sy’n gallu cefnogi datblygiad plant a phobl ifanc
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.