Manylion y cwrs:
Richard Rose yw Cyfarwyddwr Child Trauma Intervention Services Ltd, yn ymgymryd â gwaith ymgynghoriaeth a hyfforddi ar Therapi Stori Bywyd a gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ‘anodd eu cyrraedd’, ac yn datblygu rhaglenni hyfforddiant academaidd yn y DU ac yn rhyngwladol. Awdur: The Child’s Own Story—Life Story Work with Traumatised Children (2004); Life Story Therapy (2012) ac Innovative Therapeutic Life Story Work (2017)
Nodau ac amcanion y cwrs:
- Archwilio rhesymeg a disgwyliadau’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Prosiect Gwaith Taith Bywyd.
- Archwilio Fframwaith Gwaith Taith Bywyd a Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Casglu a choladu gwybodaeth
- Pwysigrwydd hunaniaeth ac ystyr
- Sgiliau gwrando a dehongli
- Pwysigrwydd ‘meddwl hudol’
- Gweithio gyda phlentyn sy’n ‘sownd’
- Technegau ar gyfer cynhyrchu llyfr Stori Bywyd
- Archwilio eich rôl o ran casglu a chyfrannu at waith taith bywyd
- Meddwl am sut i rannu a storio gwybodaeth yn sensitif
Karen Bamford – Swyddog Diogelu ac Adolygu Annibynnol – Conwy SC&E
- Polisi Gwaith Taith Bywyd Conwy a gofynion cofnodi
Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.