Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Deall Meddyliaethu ar gyfer Gofalwyr Maeth


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

Mae meddyliaethu yn sgil rydym yn ei ennill wrth i ni ddatblygu, yn ystod ein plentyndod a thu hwnt. Dyma sut y byddwn yn deall y naill a’r llall ac mae’n rhan greiddiol o lunio a chynnal (yn ogystal â mwynhau) perthnasoedd. Dyma sut y byddwn yn ein gweld ein hunain o’r tu allan ac yn gweld rhywun arall o’r tu mewn. Mae’n golygu y gallwn ni wneud synnwyr o’n hymddygiad a’n teimladau ein hunain a rhai pobl eraill, a defnyddio ein dealltwriaeth i ragweld yr hyn y byddwn ni a phobl eraill yn ei wneud nesaf. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i feddyliaethu ac yn dangos sut y gallwch chi ei ddefnyddio wrth fod yn rhiant i blant mewn gofal.

Nodau ac amcanion y cwrs:

Nodau:

  • Egluro beth yw meddyliaethu, sut y mae’n datblygu a pham ei fod yn bwysig wrth rianta
  • Defnyddio sgiliau meddyliaethu wrth rianta plant sydd wedi dioddef trallod datblygiadol

Amcanion:

  • Gwybod beth yw meddyliaethu a sut y mae’n datblygu yn ystod plentyndod (oedran a chamau, sut i’w gefnogi, sut yr amharir arno)
  • Deall sut mae meddyliaethu yn ein helpu i lunio ymlyniad
  • Deall pwysigrwydd hunan-fyfyrio wrth rianta
  • Bod yn ymwybodol o’r gwahaniaeth y gall meddyliaethu mwy ac yn fwriadol ei wneud i'r ffordd rydym yn rhyngweithio, a thrwy hynny i'n perthnasoedd, gan gynnwys pan fyddwn yn rheoli ymddygiad heriol
  • Bod â set o sgiliau rhagarweiniol i ddechrau meddyliaethu yn eich bywyd o ddydd i ddydd fel rhiant


I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi wedi archebu lle ar y cwrs ond heb dderbyn hysbysiad i fynychu, cysylltwch â Thîm Gweinyddol Datblygu a Dysgu’r Gweithlu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs heb gael hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi, gan y gallai’r digwyddiad fod yn llawn.

end content