Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Gofal Cymdeithasol a Lles Datblygu ac Addysgu Gweithlu Digwyddiadau Dysgu Datblygu Ymarfer Modiwlau E-ddysgu Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan Ar gyfer gweithwyr Gwasanaethau Oedolion a Phlant

Modiwlau E-ddysgu Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan Ar gyfer gweithwyr Gwasanaethau Oedolion a Phlant


Summary (optional)
start content

Nodau ac amcanion y cwrs:

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Oedolion a Phlant sydd yn newydd i weithio o fewn maes Gofal Cymdeithasol.

  • Mae’n rhaid i bob gwasanaeth gofal cymdeithasol ac iechyd, naill ai gwasanaeth mawr neu fach, roi cyfarfod sefydlu i bob gweithiwr newydd.

Manylion y Cwrs:

Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau eDdysgu ar-lein sydd yn darparu dealltwriaeth glir o wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd y mae arnynt angen ei wybod i sicrhau bod gweithwyr newydd yn ddiogel ac yn gymwys i ymarfer yn y cam hwn o’u datblygiad. Mae’r AWIF ar-lein yn cymryd oddeutu 16 awr i’w gwblhau. Mae disgwyliad bod y modiwlau yn cael eu cwblhau o fewn y chwe mis cyntaf yn y swydd.

Mae’r modiwlau ar-lein yn darparu gwybodaeth greiddiol i gefnogi cwblhau’r llyfrau gwaith fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan.

Gall y gweithwyr gael mynediad at y modiwlau ar unrhyw adeg a gellir ei gwblhau mewn modiwlau fesul dipyn:

  • Gall cynnydd y gweithwyr ei arbed a gellir mynd yn ôl ato ar amser sy’n gyfleus i'r gweithiwr.
  • Bydd cynnydd gweithwyr yn cael ei fonitro a bydd rheolwyr yn cael e-bost os bydd gweithwyr yn methu â chael mynediad a gwneud cynnydd ar y cwrs.

Beth wyf ei angen fel dysgwr?

Bydd arnoch angen cefnogaeth gan eich rheolwr a mynediad at liniadur neu lechen, ac amser i gwblhau’r cwrs.

Beth wyf yn ei wneud fel rheolwr?

Cefnogi'r dysgwr drwy’r ymsefydlu, monitro cynnydd y dysgwr, arsylwir arferion gwaith y dysgwyr, profi gwybodaeth y dysgwyr i sicrhau bod y gweithiwr yn gymwys.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Llenwch y ffurflen archebu i gael trwydded ar gyfer pob gweithiwr.

Ffurflen Archebu (Ffeil Word)

Beth sy’n digwydd nesaf?

  • Bydd y dysgwr yn cael e-bost gyda dolen uniongyrchol i’r modiwlau AWIF.
  • Cliciwch ar y ddolen, bydd y dysgwr yn cofrestru eu manylion, eu henw a chyfrinair i ddechrau'r cwrs.
  • Bydd arddangosiad clir o’r ffordd y mae’r cwrs yn gweithio a beth mae’r dysgwyr ei angen ei wneud nesaf.

Anfonwch bob ymholiad at sc.training@conwy.gov.uk

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content