Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Helpu Cleient Pryderus


Summary (optional)
start content

Manylion y cwrs:

DyddiadAmserLleoliadGrŵp targed
Dydd Iau 13 Mehefin 2024 9:30am tan 4:30pm Coed Pella Gwasanaethau Targed – Trawsffurfio Busnes, Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogaeth ac Ymyrraeth Teulu, Plant sy'n derbyn Gofal, Pobl Hŷn ac Atebion Iechyd Cymru, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc.

Grŵp Targed - Pob ymarferydd sy'n cynnal ymyrraethau gydag oedolion a phobl ifanc.
Dydd Iau 20 Chwefror 2025 9:30am tan 4:30pm Coed Pella Gwasanaethau Targed – Trawsffurfio Busnes, Lles Cymunedol, Tîm Anabledd, Cefnogaeth ac Ymyrraeth Teulu, Plant sy'n derbyn Gofal, Pobl Hŷn ac Atebion Iechyd Cymru, Safonau Ansawdd, Tîm Pobl Ddiamddiffyn, Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc.

Grŵp Targed - Pob ymarferydd sy'n cynnal ymyrraethau gydag oedolion a phobl ifanc.


Er mor wych yw’r ymennydd, nid yw’n gallu gwahaniaethu rhwng perygl go iawn sy’n digwydd i rywun, a meddyliau brawychus. Mae rhan isaf yr ymennydd yn synhwyro perygl, gan gychwyn cyfres o ymatebion seicolegol a byddwn yn dechrau teimlo ofn.

Mae pawb yn teimlo pryder ar adegau, ond i rai mae’n fwy cyson, yn fwy difrifol ac yn effeithio ar eu bywyd bob dydd.

Nodau ac amcanion y cwrs:

Nid bwriad y cwrs byr yma yw cynnig therapi na mynd i’r afael â gwraidd yr achos, ond bydd yn arfogi’r cyfranogwyr gyda thechnegau syml i helpu’r rhai rydych yn gweithio gyda nhw i reoli eu pryder fel y gallant lwyddo i gyrraedd eu hamcanion:

  • Dod i ddeall pam mae pryder mor gyffredin yn ein grŵp o gleientiaid.
  • Dysgu am niwroffisioleg pryder.
  • Cael trosolwg o ddulliau cyfoes o’r top i lawr, o’r gwaelod i fyny er mwyn rheoli pryder.
  • Gweld sut mae osgoi’r mater yn gwaethygu pryder.
  • Defnyddio dulliau gwybyddol o helpu pobl gyda’u meddyliau.
  • Defnyddio dulliau corfforol i helpu pobl leddfu'r teimlad.
  • Gallu helpu cleientiaid i greu eu pecyn cymorth cyntaf emosiynol eu hunain.

Am wybodaeth bellach, neu os ydych wedi archebu lle ar y cwrs a heb dderbyn hysbysiad i fynychu cysylltwch â’r Tîm Gweinyddol Datblygu’r Gweithlu a Dysgu. Peidiwch â mynychu unrhyw gwrs oni bai’ch bod wedi derbyn hysbysiad yn cadarnhau bod lle i chi oherwydd mae’n bosibl y bydd y digwyddiad yn llawn.

end content