Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Llwybr y Gogledd


Summary (optional)
start content

Awydd taith gerdded hir ar draws Gogledd Cymru? Mae Llwybr y Gogledd yn rhedeg o Brestatyn yn y dwyrain i Fangor yn y gorllewin, ac mae tua 60 milltir / 97 cilometr o hyd. Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n llwybr mwy diweddar, yn gorgyffwrdd mewn sawl man. Lle mae’r ddau lwybr yn gwahanu, mae Llwybr y Gogledd yn mynd â chi ar hyd llwybrau mewndirol hardd uwchben Llanddulas ac ar ucheldiroedd Conwy a Llanfairfechan tua Bangor.

Os hoffech chi daith ychydig yn fyrrach, fe allech chi ddewis cylchdeithiau oddi ar Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr y Gogledd ym Mhensychant, Penmaenmawr, Taith Uwchdir Llanfairfechan, a Theithiau Cerdded Llanfairfechan.

Mae Llwybr y Gogledd hefyd yn cysylltu â Llwybr Clawdd Offa ym Mhrestatyn felly gallech gerdded o amgylch Cymru gan ddefnyddio'r ddau lwybr hyn a Llwybr Arfordir Cymru. Ychwanegiad diweddar i’r llwybrau ar draws Gogledd Cymru yw Taith Pererin Gogledd Cymru, sy’n dechrau o Ddinas Basing i Ynys Enlli. Mae’n gorgyffwrdd â Llwybr y Gogledd  uwchben Conwy a Phenmaenmawr.

Pa fath o daith gerdded yw hon?

  • Tir: amrywiol o ucheldir anwastad i dir gwastad a phromenâd gydag arwyneb
  • Pellter: Mae’r llwybr tua 60 milltir / 97 cilometr o ran hyd, er ei bod yn rhwydd cynllunio taith gerdded fyrrach gan ddefnyddio rhan o’r llwybr
  • Cŵn: Dylid cadw cŵn ar dennyn
  • Lluniaeth: Ar gael mewn siopau a thafarnau lleol
  • Graddio’r daith gerdded: hawdd, cymedrol a chaled yn dibynnu ar leoliad, pellter a thirlun y daith byddwch chi’n ei dewis
  • Map: Os hoffech chi brynu map sy’n dangos y llwybr hwn, y mapiau y byddwch eu hangen yw’r Explorer OL17 (gorllewin) a’r Explorer 264 (dwyrain). Gallwch fynd draw i wefan Arolwg Ordnans i gael rhagor o wybodaeth neu i brynu eich map, neu mae’r mapiau hyn ar gael i’w prynu mewn nifer o siopau ar y stryd fawr.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

  • Ar drên: Rhif Ffôn: 0845 7484950. www.nationalrail.co.uk  
  • Mewn bws: Rhif Ffôn: Traveline Cymru 0871 200 22 33. www.travelinecymru.info  
  • Mewn car: Dilynwch yr A55 ar draws Gogledd Cymru. Mae nifer o feysydd parcio ar hyd y llwybr. Nodwch y gall taliadau parcio fod yn gymwys yn rhai o’r meysydd parcio. I gael gwybodaeth am feysydd parcio talu ac arddangos, ewch i’n hadran barcio. Mae meysydd parcio eraill ar hyd y llwybr, ac mae manylion am rai ohonynt ar gerdyn y llwybr.

Paratowch!

Map

end content