Yma yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Conwy, rydym yn ymroddedig i roi gweithgareddau hamdden i bawb. Bob dydd Mercher o 4:15pm tan 6:00pm rydym yn cynnal sesiynau penodol i bobl dros 45 oed. Mae’n gyfle gwych i ddod yn heini, cyfarfod hen ffrindiau a gwneud rhai newydd hefyd.
Mae'r sesiynau'n cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd amrywiol a mynediad i'r ystafell ffitrwydd a llawer mwy. Os ydych yn mynychu, cewch un gweithgaredd am ddim hefyd yn ystod yr wythnos honno.
Beth y gallwch ei ddisgwyl:
- Gweithgaredd grŵp i gynhesu’r corff
- Sesiynau cynefino a rhaglen ffitrwydd yn y gampfa
- Pilates
- Ioga
- Retrobics
- Ymarfer cylched
- Dawnsio llinell
- Badminton
- Tennis bwrdd
- Tennis byr
- Bowls
- Troelli
- Pêl raced
- Cerdded Nordig*
- Te, coffi a bisgedi
*yn dibynnu ar y tymor a’r tywydd.