Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyfarwyddyd Erthygl 4


Summary (optional)
start content

Mae rhai mathau o waith a fyddai fel arfer angen caniatâd cynllunio yn cael eu caniatáu gan y Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir (GPDO). Mae hyn yn bennaf oherwydd bod y gwaith ar raddfa neu o fath sydd ar y cyfan ddim yn debygol o gael effaith annerbyniol. Mae'r rheolau yr un fath ar draws Cymru ac felly yn anochel ni allant gymryd i ystyriaeth sensitifrwydd lleol. 

Y GPDO yw'r prif orchymyn. Mae wedi bod yn destun nifer o ddiwygiadau dilynol. Mae'r Gorchymyn yn nodi'r dosbarthiadau o ddatblygiadau y mae caniatâd cynllunio yn cael ei roi yn awtomatig iddynt.

Mae cyfarwyddyd erthygl 4 yn cael ei wneud gan yr awdurdod cynllunio lleol. Mae'n cyfyngu cwmpas hawliau datblygu a ganiateir naill ai mewn perthynas ag ardal neu safle penodol, neu fath arbennig o ddatblygiad yn unrhyw le yn ardal yr awdurdod. Pan fo cyfarwyddyd erthygl 4 mewn grym, efallai y bydd angen cais cynllunio ar gyfer datblygiadau a fyddai fel arall wedi bod yn ddatblygiad a ganiateir.  Defnyddir cyfarwyddiadau erthygl 4 i reoli gwaith a allai fygwth cymeriad ardal o bwysigrwydd a gydnabyddir, fel ardal gadwraeth.  

Gall cyfarwyddiadau erthygl 4 gynyddu diogelwch y cyhoedd o asedau treftadaeth dynodedig ac nad ydynt wedi'u dynodi, a'u lleoliadau. Nid ydynt yn angenrheidiol ar gyfer gwaith i adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig gan y byddai caniatâd adeilad rhestredig a chaniatâd heneb gofrestredig yn cwmpasu pob math o waith a allai fod yn niweidiol ac a fyddai fel arall yn ddatblygiad a ganiateir o dan y drefn gynllunio. Fodd bynnag, gallai cyfarwyddiadau erthygl 4 gynorthwyo i amddiffyn yr holl asedau treftadaeth eraill (yn enwedig ardaloedd cadwraeth) a helpu i amddiffyn lleoliad yr holl asedau treftadaeth, gan gynnwys adeiladau rhestredig.

end content