Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adeiladau mewn Perygl


Summary (optional)
start content

Mae'r rhan fwyaf o'r adeileddau yn adeiladau rhestredig, nid yw rhai wedi'u rhestru ond maent mewn ardaloedd cadwraeth ac mae rhai yn henebion rhestredig.

Ar hyn o bryd mae 131 Adeilad mewn Perygl ar y gofrestr (rydym yn diweddaru hyn yn gyson gan gynnwys gwybodaeth a roddir gan awdurdodau lleol).

Gall perchnogion adeiladau rhestredig, nad ydynt yn cael eu cynnal mewn 'cyflwr cadwraeth priodol' wynebu camau cyfreithiol gan gyngor lleol dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, i'w gorfodi i wneud gwaith trwsio priodol, ac os na wneir hyn gall esgeulustod o'r fath arwain at gamau prynu gorfodol gan y cyngor.

Cynhyrchwyd y gofrestr gyntaf, a gyhoeddwyd ym 1999, yn sgil arolwg o 'adeiladau rhestredig mewn perygl' a gyflawnwyd gan Bartneriaeth Handley. Ers hynny, mae'r adain Cadwraeth a Dylunio yn monitro a diweddaru'r gofrestr ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ni ellir dal Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy na'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am unrhyw wall yn y wybodaeth a ddarperir.

Adeiladau Mewn Perygl - Cwestiynau Cyffredin

Q: Beth yw'r gofrestr Adeiladau mewn perygl?
A: Mae'r Gofrestr Adeiladau mewn Perygl yn amlygu adeiladau o werth pensaernïol neu hanesyddol ledled y sir yr ystyrir eu bod mewn perygl neu dan fygythiad. Fe'i sefydlwyd yng Nghonwy ym 1999 a chaiff ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Phartneriaeth Scott Handley.
Q: Beth yw adeilad mewn perygl?
A: Mae Adeilad Mewn Perygl yn adeilad rhestredig sy'n bodloni un neu nifer o'r meini prawf canlynol: - yn wag heb ddefnydd newydd wedi'i ddynodi - wedi'i esgeuluso ac/neu wedi ei gynnal a'i gadw'n wael - yn dioddef problemau strwythurol - wedi'i ddifrodi gan dân - heb ei ddiogelu ac yn agored i'r elfennau - dan fygythiad i'w ddymchwel. - Fodd bynnag, nid yw'r rhestr yn un gynhwysfawr, a gellir ystyried meini prawf eraill weithiau wrth asesu adeilad ar gyfer ei gynnwys ar y Gofrestr.
Q: A yw'r gofrestr yn cynnwys henebion cofrestredig?
A: Ystyr heneb gofrestredig yw heneb o bwysigrwydd cenedlaethol a warchodir dan Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979. Mae henebion cofrestredig wedi'u heithrio'n benodol o'r Gofrestr Adeiladau Mewn Perygl fel mater o bolisi, gan fod y dynodiad yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn datblygu.
Q: Sut mae'r gwasanaeth adeiladau mewn perygl yn asesu cyflwr?
A: Caiff cyflwr adeilad ei asesu fel arfer yn ystod ymweliadau â'r safle gan Bartneriaeth Handley. Mae'r asesiad fel arfer yn seiliedig ar archwiliad gweledol o'r ffabrig allanol ac nid yw'n cynnwys arfarniad strwythurol a dylid ceisio cyngor arbenigol bob amser. Defnyddir y categorïau canlynol i ddisgrifio cyflwr adeilad, er bod meini prawf eraill yn aml yn rhan o'r broses. Dinistriol Mae'r adeilad yn gragen heb do. Ychydig o'r ffabrig gwreiddiol sydd ar ôl heblaw am y waliau allanol. Gwael Iawn Mae'r adeilad naill ai wedi'i ddifrodi'n helaeth gan dân, wedi dymchwel yn rhannol, neu'n dioddef problemau strwythurol mawr. Gall fod yn gyfan gwbl neu'n rhannol heb do, ond mae ychydig mwy o ffabrig ar ôl yn hytrach na dim ond y waliau allanol. Ychydig iawn o du mewn yr adeilad sydd ar ôl. Gwael Mae'r adeilad wedi bod yn wag am nifer o flynyddoedd ac nid yw i'w weld fel pe bai'n cael ei gynnal a'i gadw. Mae'r rhan fwyaf o'r ffabrig allanol yn dal ar ôl, ond mae arwyddion amlwg o ddirywiad megis llechi wedi symud, llystyfiant, ffenestri wedi torri, fandaliaeth, neu gafnau dŵr glaw ac ati wedi blocio. Gweddol Dim ond yn ddiweddar y daeth yr adeilad yn wag ond nid oes unrhyw ddefnydd newydd wedi'i ddynodi. Er ei fod wedi ei gynnal a'i gadw'n dda yn y gorffennol, bellach mae angen mân atgyweiriadau arno. Mae rhai arwyddion bod yr adeilad wedi ei esgeuluso. Mae ffabrig yr adeilad yn dda ar y cyfan, ac nid yw ei gyflwr cyffredinol o anghenraid yn ei roi mewn perygl. Fodd bynnag, mae bygythiad i'w ddymchwel, neu mae amheuaeth a fydd yn dal i gael ei ddefnyddio'n barhaus yn y dyfodol. Barn y Gwasanaeth Adeiladau Mewn Perygl yn unig yw'r asesiad o'r cyflwr.
Q: Sut y mae'r gwasanaeth adeiladau mewn perygl yn aseinio categori risg?
A: Caiff categori risg ei aseinio i adeiladau ar y Gofrestr i ddisgrifio i ba raddau y maent mewn perygl. Gan ei bod yn bosib bod ymdrechion yn cael eu gwneud ar y cyd i achub adeilad sydd mewn cyflwr gwael iawn, nid yw'r asesiad o'r perygl bob amser yn uniongyrchol gysylltiedig â'r cyflwr. Defnyddir y meini prawf canlynol i aseinio categori risg i adeiladau ar y Gofrestr. Argyfyngus Mae bygythiad i ddymchwel yr adeilad, ac mae diffyg gwirioneddol neu ganfyddedig o ran cadwraeth bellach yn ei gwneud yn annhebygol y caiff yr adeilad ei achub. Mae'n dioddef problem strwythurol acíwt a allai beri iddo ddymchwel yn llwyr neu'n rhannol, ac mae bygythiad ar hyn o bryd y gallai ddirywio ymhellach. Mae'n adeilad ar restr A sydd mewn cyflwr gwael neu wael iawn neu'n adeilad ar restr B sydd mewn cyflwr gwael iawn. Uchel Nid yw mewn perygl o ddymchwel ar hyn o bryd ond mae yn y fath gyflwr fel bod angen gwaith adfer ar frys neu fel arall bydd yr adeilad yn dirywio'n gyflym. Cymedrol Mae'r adeilad mewn cyflwr gweddol ond yn dirywio. Mae pryderon y gallai'r adeilad ddirywio ymhellach gan arwain at broblemau mwy difrifol. Isel Mae'r adeilad mewn cyflwr gweddol neu dda, ond mae perygl y gallai ddirywio'n araf. Nid oes defnydd newydd wedi'i ddynodi ar gyfer yr adeilad. Er bod posibilrwydd y gallai gael ei achub, mae cyflwr yr adeilad yn dal i fod yn achos pryder. Minimol Mae'r adeilad yn wag ond mewn cyflwr da. Mae pecyn achub wedi ei gytuno, er nad yw wedi ei roi ar waith eto. Barn y Gwasanaeth Adeiladau Mewn Perygl yn unig yw'r categori risg.
Q: A yw adeiladau sydd ar y gofrestr yn ddiogel?
A: Nid yw'r Gwasanaeth wedi cynnal asesiad strwythurol o safbwynt diogelwch y cyhoedd. Argymhellir gofal dyladwy ym mhob achos. Mae'n rhaid parchu unrhyw fesurau diogelwch sydd wedi cael eu gosod.
Q: Dan ba amgylchiadau fydd adeilad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr?
A: Mae'r Gwasanaeth Adeiladau Mewn Perygl yn cadw dwy Gofrestr eilaidd; y naill ar gyfer adeiladau wedi'u dymchwel a'r llall ar gyfer adeiladau sydd wedi eu hachub. Bydd adeilad yn aros ar y brif Gofrestr Adeiladau mewn Perygl nes ei fod yn cael ei adfer a'i ddefnyddio'n weithredol drachefn neu ei fod wedi ei ddymchwel. Byddwn yn nodi os oes gwaith adfer wedi dechrau.
Q: Pa bwerau sydd i warchod adeiladau mewn perygl?
A: : Mae nifer o bwerau statudol ar gael i awdurdodau cynllunio lleol, a'r rheini wedi'u bwriadu i warchod y dreftadaeth adeiledig. Mae rhai o'r pwerau a arferir fynychaf yn cael eu hegluro isod. Gellir cyflwyno Hysbysiadau Cadw Adeilad mewn perthynas ag adeiladau heb eu rhestru, sy'n rhoi iddynt yr un warchodaeth ag adeiladau rhestredig am gyfnod o chwe mis tra'u bod yn cael eu hasesu ar gyfer eu rhestru. Gellir cyflwyno Hysbysiadau Gwaith Brys mewn perthynas ag adeiladau rhestredig gwag a chaniatáu i'r awdurdod cynllunio lleol wneud gwaith brys megis codi sgaffaldiau cynhaliol neu strwythurau dros dro ar gyfer y to. Gellir cyflwyno Hysbysiadau Adeiladau Peryglus mewn perthynas ag adeiladau rhestredig ac adeiladau heb eu rhestru, a'i gwneud yn ofynnol i'r perchennog ymdrin ag adeilad sy'n achosi bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd trwy ei wneud yn ddiogel neu ei ddymchwel. Gellir cyflwyno Hysbysiadau Atgyweirio mewn perthynas ag adeiladau rhestredig ac adeiladau heb eu rhestru, a nodi'r gwaith y tybir ei fod yn rhesymol ac yn angenrheidiol er mwyn cadw adeilad, ynghyd â'r amserlen y dylid ei dilyn wrth wneud y gwaith hwn. Gallai methiant i gydymffurfio â'r terfyn amser a nodir arwain at sefyllfa lle mae'r awdurdod cynllunio lleol yn gwneud gwaith ac yn ailgodi tâl ar y perchennog/perchenogion. Fel mesur terfynol, gall awdurdodau cynllunio wneud cais am Orchymyn Prynu Gorfodol os bu methiant parhaus i gydymffurfio â Hysbysiadau Atgyweiriadau a gyflwynwyd mewn perthynas ag adeilad rhestredig. Fodd bynnag, dylid nodi nad oes dyletswydd statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio weithredu unrhyw un o'r uchod.

 

 

 

end content