Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Adeiladau Rhestredig


Summary (optional)
Mae'n rhaid i'r Llywodraeth Cymru restru adeiladau o werth pensaernïol neu hanesyddol arbennig, a gwneir hyn gan asiantaeth y Llywodraeth o'r enw CADW. Mae adeiladau rhestredig, fel yr ydym yn eu galw fel rheol, yn cael eu dewis yn unol â meini prawf cenedlaethol, ac yn cael eu graddio yn I, II* neu II yn ôl eu pwysigrwydd. Yn ardal gynllunio'r Cyngor, mae oddeutu 1,400 o adeiladau rhestredig, ac mae rhestr ohonynt ar gael i'w harchwilio yn yr Adran Gynllunio.
start content

Os ydych yn berchen ar adeilad rhestredig neu yn byw mewn un, ac os dymunwch wneud gwaith addasu, naill ai tu mewn neu'r tu allan, ymestyn neu ddymchwel, fel arfer bydd angen i chi wneud cais am "ganiatâd adeilad rhestredig". Cyflwynir ceisiadau i'r Cyngor yn yr un modd â chais cynllunio arferol er na chodir ffi. Er mai'r Cyngor sy'n penderfynu ar y rhan fwyaf o geisiadau,  rhaid gofyn am farn Cadw ymlaen llaw, a gall Cadw ymyrryd yn uniongyrchol os yw'n dymuno. Yn ogystal â chaniatâd adeilad rhestredig, efallai y bydd rhaid cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu neu'r ddau ar gyfer gwaith bwriedig. Mae'n drosedd gwneud gwaith heb ganiatâd a gall y llysoedd gosbi'n llym am hyn.

Mae'n ddyletswydd ar berchennog adeilad rhestredig i'w ddiogelu a gallai methu â gwneud hynny olygu bod angen i’r Cyngor gyflwyno rhybudd yn nodi'r gwaith hynny y teimlir sy'n angenrheidiol i'w ddiogelu. Mae gan y Cyngor hefyd bwerau i wneud gwaith atgyweirio ei hun mewn argyfwng ac i hawlio'r gost yn ôl.

Dogfennau cysylltiedig

C: Beth yw adeilad rhestredig?
A: Mae Adran 1 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn gofyn i Weinidogion Cymru restru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Arolygwyr Adeiladau Hanesyddol CADW sy'n gyfrifol am asesu'r adeiladau. Caiff eiddo eu rhestru dan dri chategori: - Mae'r mwyafrif, o ddiddordeb arbennig, yn Adeiladau Gradd II. - Mae ychydig o adeiladau o bwys wedi eu rhestru fel Adeiladau Gradd II*. - Mae'r adeiladau o ddiddordeb eithriadol (2% o'r cyfanswm) yn cael eu rhestru fel Adeiladau Gradd I. Mae'r holl adeiladau a godwyd cyn 1700, sydd wedi aros i ryw raddau yn eu cyflwr gwreiddiol, yn gymwys ar gyfer rhestru. Felly hefyd y rhan fwyaf o adeiladau a godwyd rhwng 1700 a 1840. O ran adeiladau a godwyd rhwng 1840 a 1914, dim ond adeiladau o ansawdd a chymeriad penodol sy'n gymwys (yn enwedig adeiladau wedi eu cynllunio gan benseiri o fri). Mae rhai adeiladau a godwyd rhwng 1914 a 1939, a nifer fach o adeiladau a godwyd ar ôl y rhyfel, hefyd wedi eu rhestru. Mae unrhyw adeilad o deilyngdod, beth bynnag ei oed, yn gymwys i'w ystyried ar gyfer ei warchod ar ffurf rhestru. Mae adeiladau rhestredig yn cael eu gwarchod drwyddynt draw, gan gynnwys waliau allanol, drysau, ffenestri a'r to, yn ogystal â phopeth y tu mewn. Ar y cyfan, mae unrhyw nodwedd fewnol sy'n wreiddiol a/neu'n ychwanegu at gymeriad a hanes yr adeilad yn cael ei warchod. Mae rhestru hefyd yn gwarchod unrhyw wrthrych neu adeiledd sy'n sownd wrth adeilad rhestredig yn ogystal ag unrhyw adeiledd o fewn y cwrtil sy'n rhan o'r tir ac sydd wedi bod yn rhan o'r tir cyn 1 Gorffennaf 1948. Hynny yw, nodweddion fel waliau terfyn, clwydi, tai allan ac adeileddau eilaidd. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o'r adeileddau hyn wedi eu rhestru yn unigol. Nid yr hyn a ddisgrifir yn unig a gaiff ei warchod. Ddiwedd 2015 cwblhawyd arolwg o bob cymuned ac fe arweiniodd hynny at restru 30,000 o adeiladau yng Nghymru.
C: A yw rhestru yn golygu na allaf wneud unrhyw newidiadau
A: Nid yw rhestru adeilad yn golygu ei fod yn cael ei gadw am byth yn ei gyflwr presennol. Mae ond yn sicrhau bod diddordeb pensaernïol a hanesyddol adeilad yn cael ei ystyried yn ofalus cyn cytuno ar unrhyw addasiadau. Gall nifer o adeiladau rhestredig gynnal rhyw raddau o addasu neu estyniad sensitif. Yn wir mae newidiadau dros amser sy'n adlewyrchu hanes, defnydd a pherchnogaeth yr adeilad hefyd yn agwedd o gymeriad arbennig eiddo penodol. Er hynny, mae rhai adeiladau yn sensitif i hyd yn oed addasiadau bychain yn enwedig os yw eu nodweddion mewnol yn neilltuol o bwysig. Trwsio I adeilad rhestredig mae'n bosibl na fydd angen cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer hyn cyn belled eich bod yn defnyddio'r un deunyddiau a'r rhai a ddefnyddir yn y tÅ· gwreiddiol. Os ydych chi'n bwriadu defnyddio deunyddiau gwahanol neu ddisodli nodweddion cyfan fel ffenestri, drysau neu risiau yna bydd angen gwneud cais. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'r Swyddog Cadwraeth i gadarnhau a yw'r gwaith bwriedig yn waith trwsio dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Gallai unrhyw waith anghyfreithlon a wneir heb y caniatâd perthnasol arwain at gymryd camau gorfodi yn erbyn y perchennog. Mae perchnogion adeiladau rhestredig, dan rai amgylchiadau, yn cael eu gorfodi i atgyweirio a chynnal a chadw eu hadeiladau. Fe allan nhw hefyd gael eu herlyn os nad ydyn nhw'n gwneud hynny neu os ydyn nhw'n gwneud newidiadau i'r adeiladau heb ganiatâd. Mae modd tynnu adeiladau oddi ar y rhestr os yw'r cofnod yn anghywir. Er nad yw rhestru yn golygu bod yn rhaid i adeilad aros heb ei newid ym mhob achos, mae'n golygu na fydd dymchwel yr adeilad yn cael ei ganiatáu ac y bydd yn rhaid i unrhyw waith addasu neu estyniad sicrhau bod cymeriad arbennig yr adeilad yn cael ei gadw. Nid yw rhestru yn golygu ffosileiddio adeilad, oherwydd mae pob adeilad yn esblygu dros amser. Yn hytrach mae'n sicrhau bod rhinweddau arbennig adeilad yn cael eu rheoli'n gywir heb golli'r nodweddion hanfodol hynny sy'n gwneud yr adeilad yn un o bwys. Mae hyn yn hynod berthnasol pan fydd newidiadau yn cael eu hystyried, fel addasiadau neu estyniadau. Gellir cymeradwyo newid os yw cymeriad arbennig yr adeilad yn cael ei barchu.
C: Alla i wneud gwaith brys ar adeilad rhestredig?
A: Mae ond yn bosibl gwneud gwaith brys ar adeilad rhestredig os ydych chi'n profi pob un o'r pwyntiau canlynol yn ddiweddarach:- - bod angen brys am y gwaith er lles diogelwch neu iechyd neu er mwyn cynnal yr adeilad; - nad oedd yn ymarferol i ddiogelu iechyd neu ddiogelwch neu, yn ôl y digwydd, gynnal yr adeilad drwy waith trwsio neu waith ar gyfer darparu cefnogaeth neu loches dros dro; - mai'r gwaith a wnaed oedd y mesurau isafswm oedd angen ar unwaith; ac - bod rhybudd ysgrifenedig wedi'i gyflwyno i'r Cyngor yn rhoi cyfiawnhad manwl dros wneud y gwaith cyn gynted fod hynny'n ymarferol yn rhesymol.
C: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng caniatad adeilad rhestredig, caniatad ardal gadwraeth a chaniatad cynllunio?
A: Mae angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar adeiladau rhestredig. Mae angen caniatâd ardal gadwraeth ar gyfer gwaith sy'n effeithio ar adeiladau nad ydynt wedi'u rhestru mewn ardaloedd cadwraeth. Nid yw'n bosibl i'r un darn o waith fod angen y ddau ganiatâd er y gallai cynllun llawn gynnwys rhywfaint o waith sydd angen caniatâd adeiladu rhestredig a gwaith arall sydd angen caniatâd ardal gadwraeth. Nod y ddau ganiatâd yw diogelu diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig yr adeiladau a'r ardaloedd eraill. Mae ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth yn sicrhau bod ystyriaeth arbennig yn cael ei rhoi i effaith y gwaith bwriedig ar ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol adeilad neu ardal ar wahân i nifer o ystyriaethau eraill sy'n rhaid eu hystyried wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio. I sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i'r adeiladau neu ardaloedd arbennig hyn, mae angen i'r Cyngor hysbysu neu ymgynghori â'r cyhoedd, Cadw ac/neu gyrff cadwraeth cenedlaethol a ragnodwyd dan amgylchiadau priodol ac ystyried eu barn wrth benderfynu ar geisiadau. Mae angen caniatâd cynllunio i sicrhau bod unrhyw ddatblygiad bwriedig neu newid yn digwydd yn unol â pholisïau cynlluniau cenedlaethol a lleol a bod pobl neu sefydliadau perthnasol yn gwybod am hyn a bod ystyriaeth wedi'i rhoi i'w barn. Wrth benderfynu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio, rhaid ystyried nifer uwch o faterion. Lle bod gwaith yn effeithio ar adeiladau rhestredig neu ardaloedd cadwraeth, wrth ystyried y ceisiadau am ganiatâd cynllunio rhaid rhoi ystyriaeth arbennig i effaith y gwaith hwn ar adeiladau rhestredig ac ardaloedd cadwraeth. Gan fod y meini prawf ar gyfer pennu yn wahanol, yn aml mae agen caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig neu ganiatâd ardal gadwraeth.
C: Ddylwn i drafod fy nghynigion gyda'r tîm cadwraeth cyn cyflwyno cais am ganiatad adeilad rhestredig?
A: Mae cyngor i berchnogion a datblygwyr a'u hasiantau proffesiynol yn rhan bwysig o'r broses ar gyfer ceisiadau adeilad rhestredig ac mae Swyddogion Cadwraeth y Cyngor ar gael i drafod eich cynlluniau cyn i chi gyflwyno eich cais.
C: Sut ydw i'n gwneud cais am ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth?
A: Rhaid i geisiadau a gyflwynwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gael eu darparu ar ffurflenni cais y Cyngor ei hun. Cyn llenwi'r ffurflenni, darllenwch Nodiadau'r Cyngor ar gyfer Ymgeiswyr. Mae ffurflenni i'w lawrlwytho ar gael ar y wefan hon. Gellir hefyd gwneud ceisiadau ar-lein. Mae'n hynod bwysig eich bod yn darparu manylion digonol gyda'ch cais. Wrth ddelio gyda'ch cais, rhaid i Swyddogion fedru asesu cymeriad, hanes a phwysigrwydd cymharol yr adeilad presennol yn glir ac union fanylion eich cynigion er mwyn ein caniatáu i werthfawrogi effaith y gwaith bwriedig yn llawn.

Cyflwynwch Gais Cynllunio
C: Pa gosbau sydd yna os dechreuir gwaith heb y caniatad adeilad rhestredig gofynnol?
A: Bydd unrhyw waith a wneir heb ganiatâd adeilad rhestredig yn drosedd ar unwaith. Gellir cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un a oedd yn gyfrifol am y gwaith heb awdurdod (mae hyn yn cynnwys y perchennog, asiant proffesiynol a chontractwyr). Os ceir chi'n euog o drosedd, gallai hynny arwain at ddirwyon sylweddol neu hyd yn oed gyfnod o garchar. Yn ogystal â chamau cyfreithiol am y drosedd, gallai'r Cyngor hefyd gymryd camau gorfodi adeilad rhestredig i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud i adfer yr adeilad i'w gyflwr blaenorol neu fel arall i liniaru effaith y gwaith heb ei awdurdodi.
C: Os rwyf yn prynu adeilad rhestredig sydd a gwaith heb ei awdurdodi wedi i wneud arno, sut bydd hyn yn effeithio arnaf i?
A: Os rydych yn prynu eiddo gyda gwaith heb awdurdod, byddwch yn atebol i unrhyw gamau gorfodi adeilad rhestredig mewn perthynas â'r gwaith heb ei awdurdodi.
C: Sut ydw i'n apelio yn erbyn gwrthod cais am ganiatad adeilad rhestredig neu ganiatad ardal gadwraeth?
A: Os ydych chi angen apelio yn erbyn penderfyniad o'r fath, dylech gysylltu â'r Gyfarwyddiaeth Gynllunio.

 

end content