Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Cynllunio, Rheoli Adeiladu, a Chadwraeth Cadwraeth Cyngor ar Gadwraeth Treftadaeth Adeiledig

Cyngor ar Gadwraeth Treftadaeth Adeiledig


Summary (optional)
Gwasanaeth ymholiadau a chyngor cyn ymgeisio mewn perthynas â gwaith i adeiladau rhestredig, ac asedau treftadaeth eraill.
start content

Gallwn roi cyngor cyn ymgeisio i chi ar Adeiladau Rhestredig neu ddatblygiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth a safleoedd Treftadaeth y Byd.

Efallai y byddwch hefyd angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig datblygu. Mae cyngor cyffredinol am gynllunio ar gael ar ein tudalen cyngor cyn ymgeisio.

Sut i drefnu Cyngor ar Gadwraeth Treftadaeth Adeiledig

Llenwch ein ffurflen Gais am gyngor ar adeiladau rhestredig ac ardal gadwraeth cyn ymgeisio a’i hanfon mewn e-bost i cynllunioplanning@conwy.gov.uk.

Faint mae'n ei gostio?

Gall y gost amrywio yn dibynnu ar y cyngor sydd ei angen arnoch.

Cyngor cyn ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig ac ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd cadwraeth

Gallwn ddarparu cyngor cyn ymgeisio ar bob cais sy'n cynnwys gwaith i adeilad rhestredig neu mewn ardal gadwraeth ac ateb ymholiadau anffurfiol gan ddarpar brynwyr.  Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:

  • Cyngor ysgrifenedig:  £90 yr awr
  • Cyfarfod mewn swyddfa hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig:  £120
  • Cyfarfod ar safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig:  £180

Ffioedd monitro Datblygu Safle am ganiatâd adeilad rhestredig

Gallwn roi cyngor ar brosiectau datblygu safle fel cytuno ar samplau/manylion, newidiadau i gynlluniau a gymeradwywyd, dadorchuddio adeiladwaith hanesyddol ac ati.  Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:

  • Cyfarfod safle hyd at 1 awr:  £120
  • Cyfarfod safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig:  £180

Ffioedd tystysgrif cwblhau i ardystio cydymffurfiaeth â chaniatâd adeilad rhestredig

Gallwn roi tystysgrifau cwblhau / cydymffurfiaeth ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig.  Mae’r ffioedd canlynol yn berthnasol:

  • Cyfarfod safle hyd at 1 awr a chyngor ysgrifenedig / tystysgrif cwblhau:  £180

Taliadau

Talu ar-lein

 

Beth sy’n digwydd ar ôl gofyn am y cyngor?

Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i roi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich ffurflen.

Os nad ydych wedi anfon y wybodaeth angenrheidiol yna byddwn yn cysylltu â chi ac yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud. Os byddwn wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, ein nod yw darparu cyngor ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod.

end content