Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Awgrymiadau Ar Gyfer Diwrnodau Gwyntog

Awgrymiadau Ar Gyfer Diwrnodau Gwyntog


Summary (optional)
Conwy yw un o'r siroedd gorau yng Nghymru o ran perfformiad ailgylchu. Mae'n wych bod trigolion Conwy yn awyddus i wneud eu rhan wrth helpu'r amgylchedd, ond weithiau gall gwyntoedd cryfion achosi problemau ar ddiwrnodau casglu.
start content

Er mwyn helpu i atal sbwriel a chadw eich cymuned yn daclus, dilynwch yr awgrymiadau ailgylchu hyn pan fydd y tywydd yn gwaethygu:

  • Os yw eich cynwysyddion ailgylchu dim ond yn hanner llawn ac y gallwch ymdopi, ystyriwch aros tan yr wythnos ganlynol pan all y tywydd fod yn well i'w gadael allan
  • Os oes gennych Drolibocs, gwnewch yn siŵr bod y bocsys wedi'u stacio yn ddiogel ar y troli
  • Os oes gennych focs ailgylchu gwyrdd, defnyddiwch gaead i atal eich deunydd ailgylchu rhag chwythu i bob man
  • Bydd rhoi cynwysyddion allan ar fore'r casglu yn lleihau'r effaith gan dywydd gwyntog. Peidiwch â gadael eich deunydd ailgylchu allan y noson cynt - rhowch nhw allan erbyn 7am ar fore'r casgliad
  • Er mwyn atal eich cynwysyddion ailgylchu rhag chwythu i ffwrdd, ewch â nhw yn ôl i'r tŷ cyn gynted ag y gallwch ar ôl y casgliad
  • Gwnewch yn siŵr bod eich holl sbwriel yn ffitio yn y bin ac y gallwch gau'r caead. Os yw'r caead i fyny, gall y gwynt ei ddal a chwythu gwastraff i lawr eich stryd
  • Bagiwch eich sbwriel cyn ei roi yn eich bin. Bydd hyn yn atal gwastraff rhag chwythu i bob man, os bydd y caead yn chwythu yn agored
  • Bydd ein criwiau yn codi deunydd y maent wedi'u gollwng a efallai y gallant godi eitemau sydd wedi'u chwythu yn agos at gynwysyddion. Ni allant bob amser godi eitemau sydd wedi chwythu bellteroedd maith i lawr y stryd. Os gwelwch yn dda, gwnewch bopeth y gallwch i atal gwastraff rhag cael ei chwythu gan y gwynt, a rhowch wybod am unrhyw broblemau sbwriel difrifol i affch@conwy.gov.uk neu 01492 575337
  • Bydd ein criwiau yn ceisio lleihau'r tebygolrwydd y bydd eich cynhwysyddion yn cael eu chwythu ymaith trwy eu dychwelyd yn ofalus. Os oes gennych Drolibocs, efallai y bydd yn cael ei adael ar ei ochr i'w atal rhag chwythu drosodd

Diolch i chi am ailgylchu ac am helpu i gadw eich cymdogaeth yn lân ac yn daclus.

end content