Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ariannu Addysg Gynnar ar gyfer Plant 3 Oed


Summary (optional)
start content

Mae plant yn cychwyn ar eu taith addysgol yn y tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.  Byddant yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae hwn yn gam pwysig ym mywydau plant cyn iddynt ddechrau mewn addysg statudol sy'n eu galluogi i ddysgu trwy chwarae dan do ac yn yr awyr agored ac yn gosod y blociau adeiladu ar gyfer eu dysgu yn y dyfodol a'u datblygiad corfforol ac emosiynol.

Mae lle a ariennir ar gael i blant 3 oed mewn lleoliad cyn ysgol cofrestredig (Cylch Meithrin, Cylch Chwarae, Meithrinfa Ddydd) neu mewn dosbarth Meithrin mewn ysgol Gynradd o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.

Ni ellir defnyddio’r cyllid hwn ar gyfer gofal plant ac mae’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i’r lleoliad. Mae’n bosibl na fydd y cyllid yn cwmpasu cost lawn y sesiwn mewn lleoliad gofal plant ac mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu cyfanswm y gost sy’n weddill.

Isod ceir canllaw ddiwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr pan fydd plant 3 a 4 oed yn dechrau ar y cam hwn ar eu siwrnai addysgol.

Cwricwlwm i Gymru - addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: Canllaw diwygiedig i rieni a gofalwyr (Llywodraeth Cymru) (PDF)

Rhaid gwneud ceisiadau am grant Addysg Blynyddoedd Cynnar i Gyngor Sir Conwy trwy'r ffurflen isod. Mae hwn yn gais ar wahân i’r Cynnig Gofal Plant Cymru ac mae’n rhaid gwneud cais am hwnnw trwy system ddigidol Llywodraeth Cymru - Childcare Offer for Wales

Pryd mae’ch plentyn yn gymwys?

Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng:Byddwch yn gymwys ar gyfer addysg rhan-amser a ariennir ar gyfer:
1 Medi - 31 Rhagfyr Tymor y gwanwyn a Thymor yr haf ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed drwy ddewis o leoliadau wedi’u cymeradwyo 
1 Ionawr - 31 Mawrth Tymor yr haf ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed drwy ddewis o leoliadau wedi’u cymeradwyo
1 Ebrill a 31 Awst Tymor yr hydref ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed  - gwneir darpariaeth trwy ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd angen i chi wneud cais am eu lle ysgol yma -

Gwneud cais am Meithrin, Derbyn ac Iau (Blwyddyn 3) ar gyfer Medi 2024-2025 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion annibynnol, cysylltwch ag ysgolion annibynnol ar wahân am ragor o wybodaeth



Am faint o oriau fydd eich plentyn yn cael mynychu?

Gall pob plentyn sy’n gymwys dderbyn hyd at ddeg awr yr wythnos o Addysg y Blynyddoedd Cynnar.

Mae hyn fel arfer yn:

  • 5 sesiwn yr wythnos, 1 bob dydd, sy’n para 2 awr yr un NEU 4 sesiwn yr wythnos, 1 y dydd, sy’n para 2½ awr yr un.

Gall lleoliadau, serch hynny, amrywio eu horiau agor. Trafodwch hyn gyda’ch lleoliad gofal plant.

Pa leoliadau sy’n rhan o’r cynllun?

Dim ond lleoliadau gofal plant sy’n aelodau o’r cynllun sy’n gymwys am gyllid. Gellir dod o hyd i’r rhestr o leoliadau ar y ffurflen gais ar-lein.  Sicrhewch eich bod wedi archebu lle ymlaen llaw ar gyfer eich plentyn cyn gwneud cais am y grant hwn).

Sut allaf wneud cais am le i fy mhlentyn?

PWYSIG:  DIM OND I UN LLEOLIAD Y GELLIR DYRANNU CYLLID ADDYSG CYNNAR.

Mae’r broses ymgeisio hon bellach ar gau.

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Conwy ar 01492 577850 neu e-bostiwch plant.children@conwy.gov.uk

Cliciwch yma i weld ein hysbysiad preifatrwydd:
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Fodd bynnag, a ydych chi wedi gwirio i weld a ydych chi'n gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant i Gymru hefyd?: www.conwy.gov.uk/cynniggofalplant


Beth sy’n digwydd os yw fy mhlentyn yn mynychu mwy nag un lleoliad?

  • Dim ond UN lleoliad y gallwn ei ariannu a’r rhiant sy’n penderfynu pa leoliad ddylai dderbyn y cyllid a ddyrennir.
  • Dylech wneud cais yn y lleoliad yr hoffech i’ch plentyn dderbyn lle a ariennir yn unig.
end content