Sut i gysylltu â ni os oes gennych chi gwestiwn ynglŷn ag Ardrethi Busnes
Yr Adran Ardrethi Busnes
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Bae Colwyn
LL29 0GG
Rhif ffôn: (01492) 576609 E-bost: ymholiadau.trethi-annomestig@conwy.gov.uk
Dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, gall busnes wneud cais am Ryddhad Disgresiynol dan Adran 44A os yw'r eiddo heb ei feddiannu dros dro - am gyfnod byr. Mae’r Ddeddfwriaeth yn caniatáu i’r Cyngor gyflwyno cais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gofyn am wahanu'r rhannau sydd wedi'u meddiannu ac heb eu meddiannu er mwyn gallu ystyried rhoi rhyddhad.
Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i anfon dros e-bost i ymholiadau.trethi-annomestig@conwy.gov.uk neu drwy'r post i'r Adran Ardrethi Busnes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG. Dylech gynnwys cynllun o'r eiddo sy'n nodi'n glir y rhan sydd heb ei fmeddiannu y gwneir cais am ryddhad arni. Ar ôl i'r cais ddod i law, bydd Arolygydd Eiddo Conwy yn ymweld â’r eiddo i gadarnhau cywirdeb y cynllun a gyflwynwyd. Mae gan y Cyngor ddisgresiwn i dderbyn neu wrthod cais am Ryddhad A44A, ond os derbynnir y cais ar y cam hwn, gofynnir am Dystysgrif gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dangos rhaniad Gwerth Ardrethol yr eiddo.
Gellir caniatáu Rhyddhad A44A yn yr achosion canlynol:
- Os yw'r eiddo'n cael ei feddiannu'n rhannol er mwyn hwyluso adleoli
- Os yw'r eiddo'n cael ei feddiannu'n rhannol oherwydd dirywiad dros dro mewn masnach
- Os yw tân, llifogydd neu drychineb naturiol arall yn golygu na ellir defnyddio'r eiddo'n llawn
Nid yw ceisiadau ôl-weithredol na cheisiadau am eiddo tymhorol yn debygol o gael eu caniatáu.